Y Gwneuthurwr

  • Header image
  • Header image

Daniel BoyleGwneuthurwr Mewn Ffocws

12 Ionawr - 21 Chwefror 2016

Ers graddio yn Serameg Stiwdio o Goleg Celf Harrow, Llundain yn 1991, mae Daniel Boyle dros y deunaw mlynedd diwethaf wedi byw a gweithio yng Nghymru.

Mae’n creu darnau unigryw defnyddiol arlliw halen, darnau i’w dal a’u gweithio – pethau i’w defnyddio a’u mwynhau. Mae pob darn o’r broses gwneud yn cyfrannu i’r darnau a gynhyrchir; y marciau taflu a troi, y patrymau argraffedig a’r arlliw ansoddedig hylifol.

Defnyddir cilniau pren a nwy i danio’r gwaith hyd at 1300o . Amlyga slipiau a lludw lle mae’r fflam wedi cyffwrdd y potiau, gan greu rhedeg a symudiad o fewn y gwaith, a creu arlliw sydd yn adlewyrchu tirluniau a byd i’w archwilio o fewn yr arwyneb.

<< Yn ôl tudalen