Y Gwneuthurwr
Cylchoedd a SgwariauChris Bird Jones
17 Medi - 03 Tachwedd 2013
Yng nghypyrddau Chris gwnewch chi ddarganfod llawer o wydr, ynghyd a phethau eraill. Gwydr yw ei defnydd dewisol am nifer o flynyddoedd. Wrth dynnu rhai o’r darnau yma allan o’i chwpwrdd a’u gosod o fewn gwagle Oriel Mission rhoddir gyfle iddi ail-edrych ar y gwaith, gan llunio y llwybr arweiniodd i’r pwynt yma.
Cyfle yw hwn i Chris adlewyrchu ar ei gwaith o fewn gwydr a golau, a archwiliwyd dros y blynyddoedd. Mae yna gliwiau, siapau, delweddau a ffurfiau, patrymau yn arddangos …. mae’r llyfr sylwadau yn rhan allweddol o’r broses hyn. Gwahodda Chris i ymwelwyr ymateb i’r gwaith arddangosol ac i sylwadu arno.
Am | Chris Bird-Jones
Arddengys Chris Bird-Jones MA[RCA] yn genedlaethol a rhyngwladol, mae ganddi gwaith mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat, ac mae’n aelod allweddol o Weithdŷ Gwydr Rhyngwladol i Fenywod. Ei hymchwil i ffenomena cinetig golau gyda gwydr yw sylfaen ei astudiaeth ymarferol PhD i’w ddylanwad ar ein bod emosiynol a ffisegol. Cydweithia gyda’r artist gweledol a’r gwneuthurwr ffilm Karen Heald ers 2006.