Y Gwneuthurwr

  • Header image

Criw Celf y GorllewinMyfyriwr Blaenorol

11 Medi - 25 Medi 2021

I gyd-ddigwydd ag arddangosfa Criw Celf y Gorllewin, rydym yn dathlu gwaith Safiyyah Altaf, un o gyn-fyfyrwyr Codi’r Bar gan ddangos ei datblygiad ers y rhaglen.


 

Safiyyah Altaf

@safiazraaart

 

Cyn-fyfyriwr Codi’r Bar 2019-2020

Ar hyn o bryd, dw i’n astudio ar gyfer gradd mewn Dylunio Patrymau Arwynebau yng Ngholeg Celf Abertawe (PCDDS). Casgliad o’m gwaith celf yw’r darnau sydd ar ddangos a gynhyrchwyd yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol ar gyfer prosiectau fy astudiaethau Gweledol a Phwnc Arbenigol. Mae’r gwaith sydd wedi’i ddethol yma’n dangos yr arbrofi a wnes i â chyfryngau fel sgrin-argraffu, risoprint a syanoteip. Drwy’r arbrofi yma dw i wedi canfod bod gan bob techneg ei “phersonoliaeth” ei hun – o’r chwareus i’r rhyfeddol. Yn aml, bydd fy mhroses greadigol yn dechrau gyda chasglu delweddaeth o’m teithiau ymchwil o gwmpas Abertawe – y rhan fwyaf wedi’i hysbrydoli gan arteffactau o amgueddfeydd, strydoedd a siopau elusennau Abertawe. Mae’r darnau hyn wedi’u cysylltu a’u hysbrydoli gan gyfarfyddiadau â natur yn ystod y teithiau ymchwil hyn. Mi fydda i’n defnyddio elfennau o hap-destun gan eu cyfuno â motiffau naturiol i greu stori farddonol yn fy ngwaith celf.

Bu Codi’r Bar wir yn helpu i roi i mi’r hyder i fynd ar ôl sut dw i’n creu erbyn heddiw. Bu pob gweithdy unigryw yn meithrin rhyw deimlad o chwilfrydedd o ran y gwahanol lwybrau yn y diwydiant. Bu hefyd yn fy helpu i ddatblygu sgiliau gwneud marciau gan roi hwb i chwarëusrwydd wrth drosi ymchwil yn wahanol gyfryngau. Roedd yr wybodaeth a ges i o gyfathrebu ag arweinwyr gweithdai Codi’r Bar, yn ogystal â chysylltiadau â’r diwydiant, yn hynod werthfawr i mi. Drwy hyn mi ddatblygais i benderfyniad i ddilyn fy niddordeb ysol mewn celfyddyd. At ei gilydd, dw i’n ddiolchgar i mi fod yn rhan o brosiect mor fuddiol a hwyliog gan ei fod wedi rhoi hwb i mi mewn cymaint o ffyrdd yn fy ngwaith presennol fel artist.

<< Yn ôl tudalen