Y Gwneuthurwr

  • Header image

Codi'r BarMyfyriwr Blaenorol: Gemma Yeomans

26 Awst - 26 Medi 2020

I gyd-ddigwydd ag arddangosfa Criw Celf y Gorllewin, rydym yn dathlu gwaith Gemma Yeomans, un o gyn-fyfyrwyr Codi’r Bar gan ddangos ei datblygiad ers y rhaglen. 

 


 

Myfyriwr blwyddyn gyntaf ydw i yng Ngholeg Celf Abertawe PCDDS yn astudio Dylunio Patrymau Arwyneb. Mi sylweddolais faint dw i’n dwlu ar decstilau pan oeddwn yn astudio Tecstilau Safon Uwch yng Ngholeg Castell-nedd. Bu arbrofi gyda lliwiau, gweadau a deunyddiau gwych ynghyd ag anogaeth fy nhiwtor, Sarah, yn gadael i mi wireddu fy awydd i ymhél â chelfyddyd.

Cefais y fraint o fod yn rhan o gwrs Codi’r Bar Oriel Mission lle ces i hefyd gyfle i arddangos fy ngwaith mewn oriel am y tro cyntaf. Ro’n i’n gallu bod yn chwilfrydig yn greadigol drwy ymchwilio i gyfryngau megis gwydr, sgrin-argraffu, enamel ac, yn bwysicaf oll, gerameg.

Mi wnes i ddarganfod cariad newydd at gerameg yr es i ar ei ôl ymhellach yn ystod fy Mhreswyliad Stiwdio Codi’r Bar yn stiwdios Elysium yn sgil Dyfarniad Jane Phillips. Yn ystod y preswyliad, mi greais gyfres o ddarnau ceramig a fu’n canolbwyntio ar asio clai a deiliach mewn cytgord yn ogystal â chael cyfle i sgwrsio a gweithio ochr yn ochr ag artistiaid eraill a roddai gyngor ac ysbrydoliaeth i mi.

Ar hyn o bryd dw i mewn cyfnod hynod arbrofol yn fy addysg. Er nad ydw i eto wedi dewis y llwybr dw i’n bwriadu ei ddilyn, dw i’n arbennig o frwd ynglŷn â’r rhannau o’m cwrs sy’n ymdrin â chelfyddyd ‘fewnol’ ac yn ddiweddar dw i wedi ymddiddori’n fwy ym myd ffasiwn gyda phwyslais arbennig ar strwythur, plygiadau a thiwl.

<< Yn ôl tudalen