Y Gwneuthurwr

  • Header image

Claire CurneenGwneuthurwr Mewn Ffocws

19 Tachwedd - 08 Ionawr 2012

Un o geramegyddion mwyaf blaengar Prydain, yn enwog am ei ffigyrau porslen teimladol ers dros deng mlynedd. Wedi’i swyno gan y corff dynol, archwilia hi y themau o estroni dynol, y benywaidd a’r cyfuniad o’r cnawd corfforol a’r bodolaeth ysbrydol. Mae ei thechneg o gwneud, rhyw fath o glytwaith porslen, yn creu ffigyrau sydd llawn olion llaw a llinellau bas fel creithiau. Mae gan y ffigyrau yma bresenoldeb anghyffredin, lletchwith a bregus ond hefyd annibynnol ac anchwiliadwy.

‘Daphne’. Daw y thema o stori Apollo a Daphne. Yn y peintiad gan Antonio del Pollaiuolo, caiff Daphne ei chipio gan Apollo y Duw Groegaidd. Dyfalbarha ef i’w chael hi ond gweddia Daphne i’r Duwiau ei helpu ac fe’i trawsnewidir hi i goeden, newida ei breichiau i frigau cryf gan gysgodi Apollo. Dengys dehongliad Curneen ffigwr porslen mewn cyflwr o newid, amlynca’r brigau hi ac awgryma’r defnydd o aur hyfrydwch yn ei ffawd.

<< Yn ôl tudalen