Y Gwneuthurwr

  • Header image

Catherine BrownGwneuthurwr Mewn Ffocws

13 Hydref - 15 Tachwedd 2015

Mae gan Catherine ddiddordeb mewn adeiladwaith a deunyddiau. Yn ei gwaith newydd ar gyfer Gwneuthurwr mewn Ffocws, archwilia potensial gwydr wedi’i ffurfio ag odyn fel cyfrwng i gyfleu breuder a chryfder.

Gweithia gyda thensiwn a chydbwysedd o fewn ffurfiau fel ffordd i gyfleu ei meddwl personol ac emosiynol. Mwynha symudiad golau naturiol dros ffurfiau gwydr sydd yn newid cysgodion ac adlewyrchiadau’n barhaus, rhai’n wydn a thrawiadol ac eraill yn feddal a chraff. Adleisia’r gwrthgyferbyniadau yma’r teimladau aml ambifalent yn ei gwaith. Gwelir diddordeb Catherine yng ngherflunwaith, deunyddiau a gwneud, yn aml yn croesi a chymysgu defnydd y deunyddiau, yn enwedig cerameg a thecstilau. Mae hi’n cymryd ysbrydoliaeth o strwythur deunyddiau eraill yng nghynhyrchu cerflunwaith gwydr.

<< Yn ôl tudalen