Y Gwneuthurwr

  • Header image

Bonnie GraceY Gwneuthurwr

01 Ebrill - 27 Mai 2023

Mae fy ngwaith yn seiliedig ar wrthrychau. Mae cerameg yn ddylanwad enfawr arna i, ar ôl i mi gael fy magu gan fy mam yn gwerthu hen bethau. Fy nod yw ymchwilio, dadelfennu a dehongli’r gwrthrychau hyn drwy fy ngwaith.  

Drwy lunio llinellau’n ddi-dor, rwy’n gallu datgysylltu o’r gwrthrych. Drwy weithio mewn amrywiaeth o gyfryngau, yn amrywio o luniadu, paentio, gwaith paent, tecstilau, gwaith papur a cerameg, mae gwaith yn cael ei wneud y tu hwnt i’r hyn sy’n cael ei weld i’w archwilio ymhellach.  

Mae iaith sy’n gyfrinachol i mi wedi’i gwreiddio yn y gwaith, wedi’i hysbrydoli gan y cod deuaidd a’r gridiau ailadroddus a geir mewn tecstilau. Drwy’r iaith hon sy’n unigryw i mi, rwy’n datgelu elfennau ohonof fy hun, fy nghyffesion, y pethau na alla i eu cyfaddef y tu allan i’r cod.

Rhan o’m gwaith yw creu jygiau ceramig addurniadol – rwy’n datblygu’r rhain mewn ffordd anghonfensiynol, wrth ddefnyddio’r clai fel papur i greu ffurf dau ddimensiwn 3d.

<< Yn ôl tudalen