Y Gwneuthurwr

  • Header image

Bob CrooksGwneuthurwr Mewn Ffocws

29 Gorffennaf - 29 Awst 2011

Un o wneuthurwyr gwydr mwyaf adnabyddadwy Prydain yw Bob Crooks. Yn enwog am ei ffurfiau a’i arwynebau deinamig, o ansawdd uchel ac arbennigol am dros deuddeg o flynyddoedd. Arddengys ei waith yn rhyngwladol, er enghraifft Tseina, Awstralia acAmericaynghyd â nifer o arddangosfeydd ar draws y DU.

Ysbydolir pob darn gan Geometreg, Pensaernїaeth, y naturiol a’r bydoedd dynol rŷm ni’n byw, yn ogystal a rhinweddau a gallu gwydr ei hun. Trwy amrywiaeth y gwaith, gorchesta Bob nifer o briodweddau y defnydd ei hun trwy plygiant ac adlewyrchiad; awch neu feddalwch, tryloywder neu didreiddedd. Yn gweithio gyda’i hylifedd a ‘rhewi’ y ffurfiau dymunol gwelir y broses yn amrywiaeth y gwaith cynhyrchiol parod. Mae Bob wedi datblygu gwaith ymwybodol sydd, oherwydd natur yr ymroddiad gwahanol, darnau unigol. Nid yw’n bosib gwneud dau ddarn yr un peth.

Ennillodd ei sgiliau gwneud gwydr wedi blwyddyn yn gweithio fel cynorthwyydd i Ronnie Wilkinson (y gwneuthurwr cyn-Whitefriar chwedlonol) yn y Glasshouse yng Ngerddi Convent yn ystod 1980au. Yma ddysgodd sut i drin casgliadau mawr o wydr toddedig mewn ffordd cadarn a grymus. Dysgodd technegau cynnil, fel edafu, o gwneuthurwyr gwydr wedi’i hysbrydoli gan yr arddull Eidalaidd ynghyd a rhai o’rAmerica.

Astudiodd Bob Crooks Yng Ngholeg Celf a Dylunio Gorllewin Surrey (BA Hons).

<< Yn ôl tudalen