Y Gwneuthurwr

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Beca BeebyGwneuthurwr Mewn Ffocws

25 Chwefror - 06 Ebrill 2014

Yn 2009, dechreuodd Beca weithio gyda gwenyn mêl, arweiniodd hyn iddi archwilio a darganfod ffyrdd i orfodi’r creaduriaid rhyfeddol yma adeiladu i’w hanghenion hi. Tasg tymhorol yw cadw gwenyn; mae’n cymryd amser ac amynedd i adael i’r gwaith dyfu’n lythrennol cyn gall Beca barhau gyda’r darn. Galluoga hyn iddi gynhyrchu gwaith sydd yn portreadu harddwch  manwl y crwybr tu mewn i gwch gwenyn; yr harddwch naturiol o ganlyniad i dyfiant organig a’r angen am economeg a chryfder.

Mae gwaith Beca yn eistedd ar y linell rhwng ‘Celf’ a ‘Chrefft’. Daw ei hysbrydoliaeth o nifer o lefydd gwahanol: anifeiliaid a bywyd planhigion yn eu amgylchedd naturiol, yn enwedig y manylion bach a chwrl planhigyn newydd, strwythyr hedyn ac esgyrn clun buwch. Mae Beca yn pryderu am ffermio dyfal a’r effaith dynol ar yr amgylchedd. Nid dehongliad uniongyrchol o beth mae’n gweld ydyw, mwy o argraffiad, canlyniad ei hargraffiad hi; yn ymhlygu’r grym, y gwthiad.

Dros yr un-ar-bymtheg mlynedd diwethaf mae Beca wedi gweithio mewn haearn bwrw a ffwrnais, gyda gwaith diweddar wedi datblygu o ystyriaeth graddfa fach, gan greu darnau manwl wedi’u creu o gopr; graffit; porslen.

<< Yn ôl tudalen