Y Gwneuthurwr
Anne GibbsGwneuthurwr Mewn Ffocws
14 Ionawr - 23 Chwefror 2014
Prif nod gwaith Ann yw ymateb i gasgliadau a lleoliadau gwrthrychau darganfedig a gwneud. Mae’n creu darnau tri deimensiwn ar raddfa bach, yn bennaf gyda serameg sydd wedi’u dewis i eistedd yn annibynnol neu fel rhan o grŵp, weithiau ynghanol gwrthrychau gan ddyn neu naturiol.
Wrth weithio fel artist preswyl yn stiwdios Heatherwick, Canolfan Celf Aberystwyth yn Haf 2013, archwiliodd Anne y tirluniau cyferbyniol o fewn ac o amgylch Aberystwyth. Hwn yw ysbrydoliaeth ei chorff gwaith diweddaraf. Dogfennodd delweddau, defnyddiau naturiol wedi’u casglu a newidodd y darganfyddiadau i llywio’i syniadau. Record gweledol yw hwn o amgylchfeydd Anne a’i ymateb personol i amgylchedd newydd.
“Wedi symud o brintio i serameg, mae Gibbs yn dod a teimladrwydd penodol i’w gwaith clai a gellid cymharu ei cyfuniadau i elfennau arlunio, wedi’u datod a’u ail cyflwyno mewn tri deimensiwn. Trefnir y rhain ar sylfeini pren wedi’u paentio ar gyfer arddangos mewn cabinet, pob cyfuniad swrreal ond barddonol yn achosi ystyriaeth oedol; dewisiad a lleoliad yw popeth.”
Dr Johanna Dahn, Prif Ddarlithiwr yn Astudiaethau Critigol yng Nghelf a Dylunio, Ysgol Celf a Dylunio Caerfaddon. Cyhoeddiad ‘earth’ Ionawr 2012.
Am | Anne Gibbs
Mae Anne yn byw a gweithio yng Nghaerdydd. Astudiodd Celf Gain, gan arbenigo ym mhrintio (1994) a chyflawnodd cyrsiau cyfnod dysgu, PGCE (FE) (1999) a gradd Ôl-radd yn Serameg (2004) yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd. Mae Anne wedi gweithio fel artist mewn nifer o feysydd celf a dylunio, yn gweithio ar gomisiynau cyhoeddus, dysgu a darlithio mewn ysgolion, prifysgolion a chymunedau trwy Dde Cymru.