Y Gwneuthurwr

  • Header image

Anna LewisGwneuthurwr Mewn Ffocws

21 Awst - 30 Medi 2012

Dylunwr gemwaith cyfoes yw Anna Lewis wedi’i sefydlu yn Nê Cymru. Archwilia ei gwaith blaenorol y syniad o gôf, storїau a ffantasi. Mae wedi gweithio gydag amrywiaeth o gyfryngau er enghraifft plu printedig, lledr a pren wedi’u cyfuno ag arian a gemau.

Mae ei gwaith wedi croesi sawl digyblaeth o waith sefydledig i gyfarwyddo celf a dylunio cynnyrch i ffotograffaeth ffasiwn a fideo cerddoriaeth i prosiect cydweithiol ‘Seven Everything’. Wedi ond cyflawni ei MA, mae gwaith Anna nawr yn archwilio estheteg tywyllach gydag islais annaearol trwy gwrthrychau ffasiwn a ffotograffaeth. Archwiliad i dywyllwch yw’r casgliad newydd, estheteg angheuol sydd yn cyfuno prydferthwch a marwolaeth, ffasiwn a’r annaearol, anifail a’r dynol.

Ysbrydolwyd y casgliad  gyda’r darganfyddiad o’r hyn sydd tu hwnt i iaith, fel mae hud a prydferthwch i’w darganfod yn marwolaeth. Fel y cawn ein hatynnu a’n gwrthyrru,ein swyno ac ofni trwy’r amser. Y syniad o orchuddio a pellteru o’r ofnadwy trwy brydferthwch a ffotograffeth yn ganolog i’r gwaith, o addurno marwolaeth neu marwolaeth fel addurn.

<< Yn ôl tudalen