Y Gwneuthurwr
Alastair DuncanGwneuthurwr Mewn Ffocws
09 Mawrth - 01 Mehefin 2019
Artist yw Alastair sy’n gweithio gyda gwehyddu tapestri a chyfryngau digidol. Mae’n byw ac yn gweithio yng Nghymru er 1983 ac wedi arddangos yn eang yn y DU, Ewrop a’r Unol Daleithiau.
Ac yntau wedi cwblhau llawer o gomisiynau pwysig i’r sector corfforaethol yn y DU ac Iwerddon, mae Alastair hefyd yn adnabyddus mewn ysgolion ar draws de Cymru am ei brosiectau mewn dylunio a gwehyddu a chyfryngau digidol rhyngweithiol.
Delweddau mynych yng ngwaith Alastair yw gwrthdaro a chyfathrebu. Ar hyn o bryd, gyda chymorth grant Ymchwil a Datblygu a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’n cydweithio â Simon Kilshaw yng Ngholeg Celf Abertawe PCDDS i ddod â rhyngweithioldeb sain i’w waith gan ddefnyddio gwehyddu tapestri, metel a sain a gofyn i’r gynulleidfa ymgysylltu â’r gwaith drwy agosrwydd a chyffyrddiad.
Mae gwaith Alastair gyda sain yn seiliedig ar recordio maes ac yn elfen hanfodol o’i fusnes creadigol StillWalks® sy’n defnyddio canfyddiad synhwyraidd o’r amgylchedd i ymdrin â materion sy’n ymwneud â phryder, straen a lles.
Mae ei waith wedi’i gynnwys yn arddangosfa Grŵp Tapestri Prydain, “Sain a Gwehyddu”, sydd i’w gweld yn Adeilad Dinefwr Coleg Celf Abertawe 9-31 Mawrth.