I Oedolion

  • Header image

Stensilio Ar DdefnyddMelissa Rodrigues

30 Hydref - 06 Tachwedd 2021

 

Dydd Sadwrn 30 Hydref a dydd Sadwrn 6 Tachwedd

 

12yp – 2yp 

 

Yn addas i 14+ oed

 

£10

 

 

Ymunwch â’r artist o Abertawe, Melissa Rodrigues, ar gyfer gweithdy cyffrous mewn dwy ran dros ddau ddydd Sadwrn o’r bron sy’n edrych ar hunaniaeth ddiwylliannol. Bydd Melissa yn trafod ei gwaith celf ac yn eich arwain wrth arlunio ffigyrau, dylunio stensiliau a gweithio â phaentiau defnydd i greu gwaith celf ar ddefnydd print cwyr.

 

Yn ystod sesiwn un, bydd Melissa yn cyflwyno ei gwaith, yn sgwrsio am hunaniaeth ddiwylliannol ac yn eich arwain at ddatblygu arluniau o ffigyrau ar gyfer y delweddau stensilio.

 

Yn ystod sesiwn dau, byddwch yn torri’ch stensiliau ac yn creu’ch darnau printiedig ar ddefnydd.

 

Yn addas i bob gallu, gan gynnwys y rheini sydd â mwy o brofiad. I gwblhau’ch darn, bydd angen i chi fod ar gael i’r ddwy sesiwn ddwy awr.

 

Cyfyngir y gweithdy i 8 cyfranogwr. Archebwch le yn gynnar i osgoi siom.

 

Byddwn yn dilyn gweithdrefn olrhain cysylltiadau (gan ddefnyddio’r manylion a ddarperir ar eich ffurflenni caniatâd). Os bydd unrhyw unigolyn yn dangos arwyddion o symptomau COVID, hysbysir yr holl gyfranogwyr ac mae’r sesiynau’n debygol o gael eu canslo rhag ofn.

Oherwydd yr amgylchiadau sydd ohonynt, gall dosbarthiadau gael eu canslo/gohirio ar fyr rybudd. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd ag y gallwn ni i chi os bydd hyn yn angenrheidiol. Dylech fod ar gael yn ystod y sesiynau, pe bai angen i ni gysylltu â chi i gasglu’ch plentyn.

Os ydych chi neu’ch plentyn yn teimlo hyd oed ychydig bach yn anhwylus byddwn ni’n gofyn i chi aros gartref ond rhowch wybod i ni os na fydd eich plentyn yn mynychu’r sesiwn y diwrnod hwnnw.



 

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu ar 01792 652016 neu e-bost megan@missiongallery.co.uk

Darperir deunyddiau, nifer y lleoedd yn gyfyngedig, rhaid archebu ymlaen llaw.

Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol.

<< Yn ôl tudalen