I Oedolion

  • Header image

Porslen gyda Dan ButlerGweithdy

02 Tachwedd - 02 Tachwedd 2019

10.30yb – 3.30yp | £45 | Yn addas i 16+ oed

I gyd-ddigwydd â’n harddangosfa Iaith Clai ddiweddaraf, Olion gan Kate Haywood,
bydd y gweithdy yma’n canolbwyntio ar borslen ac mae ganddo dipyn i’w gynnig i
ddechreuwyr pur neu ddychweledigion. Treulir y bore yn ymgyfarwyddo â’r
deunyddiau a rhoi cynnig ar fwrw slip. Yn y prynhawn, gallwch roi cynnig ar
dechnegau adeiladu slab meddal gweadol.

Eventbrite - Clay Animal Faces | Children's workshop

Bydd pob cymorth ar gael gan Daniel Butler, Technegydd Cerameg PCDDS a
cheramegydd proffesiynol. Darperir clai a deunyddiau. Nifer y lleoedd yn gyfyngedig
i sicrhau tiwtora digonol.

Yn cael ei gynnal ar Gampws Dinefwr PCDDS, Heol De La Beche, Abertawe, SA1
3EU

Gwybodaeth Bwysig
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, felly rhaid archebu lle. Mae hyn yn cael ei wneud
drwy ddefnyddio Eventbrite.
Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion o ran mynediad, alergeddau neu
anhwylderau meddygol.
kat@missiongallery.co.uk

Mae Oriel Mission yn ymrwymedig i barchu’ch preifatrwydd. Yn ystod ein gweithdai
a digwyddiadau, efallai y byddwn ni’n tynnu lluniau at ddefnydd dogfennu a
hyrwyddo. O bosib, bydd y ffotograffau hyn yn cael eu rhannu â’n cyllidwyr a’u
defnyddio ar ein gwefan ac yn y cyfryngau cymdeithasol. Os nad ydych am i ni dynnu
llun ohonoch, rhowch wybod i aelod o staff ar y diwrnod.

Os oes gynnoch chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â diogelu data, cysylltwch â’n
Swyddog Diogelu Data:
data@missiongallery.co.uk

<< Yn ôl tudalen