I Oedolion

  • Header image

Hongiadau Wal PersiaiddSahar Saki

04 Rhagfyr - 04 Rhagfyr 2021

Dydd Sadwrn 4 Rhagfyr | 11yb-3yp | £10 | Addas i bobl 14 oed +

Cyfle i greu’ch hongiad wal Persiaidd eich hun gyda’r artist Sahar Saki! 

 Eventbrite: Hongiadau Wal Persiaidd

Artist a dylunydd rhyngwladol arobryn o Iran yw Sahar sy’n byw yng Nghaerdydd. Yn cael ei hysbrydoli’n aml gan ei chefndir Persiaidd, mae ei gwaith wedi’i wobrwyo gan UNESCO, Busnes Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Yn y gweithdy hwn, fe’ch cyflwynir i galigraffeg Bersiaidd. Ar ôl ymgynefino â’r wyddor a’r deunyddiau, bydd Sahar yn eich helpu i gynllunio’ch hongiad wal Persiaidd hardd eich hun. Gan dynnu ysbrydoliaeth o batrymau a llythrennau Iranaidd, byddwch wedyn yn trosglwyddo’ch cynllun i ddefnydd cynfas. Gellir arddangos hwn fel hongiad neu wedi’i fframio – chi biau’r dewis.

Does dim rhaid wrth wybodaeth flaenorol o’r iaith Berseg.

 


 

Byddwn yn dilyn gweithdrefn olrhain cysylltiadau. Os bydd unrhyw unigolyn yn dangos arwyddion o symptomau COVID, hysbysir yr holl gyfranogwyr ac mae’r sesiynau’n debygol o gael eu canslo rhag ofn.

Oherwydd yr amgylchiadau sydd ohonynt, gall dosbarthiadau gael eu canslo/gohirio ar fyr rybudd. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd ag y gallwn ni i chi os bydd hyn yn angenrheidiol.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu ar 01792 652016 neu e-bost megan@missiongallery.co.uk

Darperir deunyddiau, nifer y lleoedd yn gyfyngedig, rhaid archebu ymlaen llaw.

Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol.

<< Yn ôl tudalen