I Oedolion
Gwneud Torchau Helyg a Thrimins Nadolig Traddodiadol Gweithdy
07 Rhagfyr - 07 Rhagfyr 2019
11yb – 4yp | £30 | Addas i’r rhai 16+
Ymunwch â ni yn Oriel Mission ar gyfer holl hwyl y Nadolig a gwneud torch
a thrimins unigryw wedi’u plethu â llaw!
Bydd yr artist a dylunydd cyfoes Louise Tucker yn dangos technegau
plethu helyg traddodiadol a fydd yn gadael i chi adeiladu ffrâm eich torch.
Gallwch addurno hon fel a fynnoch gan ddefnyddio deiliach ffres a chelfi’r
Nadolig. Bydd Louise hefyd yn dangos sut i greu addurn helyg ar ffurf
seren. Dewch â deiliach a deunyddiau naturiol/trimins a chelfi’r Nadolig at y
gwaith addurno.
Gwybodaeth Bwysig
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, felly rhaid archebu lle. Mae hyn yn cael ei wneud
drwy ddefnyddio Eventbrite.
Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion o ran mynediad, alergeddau neu
anhwylderau meddygol.
kat@missiongallery.co.uk
Mae Oriel Mission yn ymrwymedig i barchu’ch preifatrwydd. Yn ystod ein gweithdai
a digwyddiadau, efallai y byddwn ni’n tynnu lluniau at ddefnydd dogfennu a
hyrwyddo. O bosib, bydd y ffotograffau hyn yn cael eu rhannu â’n cyllidwyr a’u
defnyddio ar ein gwefan ac yn y cyfryngau cymdeithasol. Os nad ydych am i ni dynnu
llun ohonoch, rhowch wybod i aelod o staff ar y diwrnod.
Os oes gynnoch chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â diogelu data, cysylltwch â’n
Swyddog Diogelu Data:
data@missiongallery.co.uk