I Oedolion

  • Header image

Gwneud Print Bwrdd CeginCwrs

15 Mehefin - 16 Mehefin 2019

11yb-4yp | £75 (Gostyngiad ar gael i Gyfeillion Oriel Mission a mynychwyr gweithdai blaenorol) | Yn addas i 16+ oed

P’un a ydych am ddysgu sgil newydd, printio ar ddefnydd, creu lluniau neu gardiau i’w rhoi i’ch teulu a’ch ffrindiau, dewch draw i ddarganfod rhai technegau gwych ar gyfer gwneud printiau. Bydd y cwrs hwn yn arbrofi gyda gwahanol syniadau ar gyfer printio y gellir eu gwneud gartref heb yr angen am offer arbenigol. Mono-print, gwasgbrintio, colograff, gwm Arabaidd, Platyn Gelli a sgrin-brintio yw rhai o’r dulliau printio sydd ar gael i edrych arnynt. Darperir deunyddiau – fodd bynnag, argymhellir bod mynychwyr yn dod â gwahanol fathau o bapurau neu lyfr braslunio i argraffu arno.

Mae Karen Teal yn athrawes gelf a thecstilau ers 32 o flynyddoedd. Yn dod o ogledd Cymru’n wreiddiol, mae wedi ennill profiad helaeth wrth addysgu yn Tsieina a’r Swistir gan ddychwelyd adre i Gymru yn ddiweddar. Mae Karen ar dân dros bob ffurf ar gelfyddyd a thecstil gan annog myfyrwyr i ddatblygu sgiliau, cysyniadau, dealltwriaeth a chreadigrwydd gyda hyder. Yn ei gwaith fel athrawes, mae Karen yn ysgogi cyfranogiad, edrych ar deimladau a gwybodaeth, i gyd yn cael eu mynegi gyda medr ac ymrwymiad. Mae ei haddysgu’n hybu mwy o hyder ac annibyniaeth bersonol, oll yn cael ei danategu gan ddiddordeb ysol mewn creadigrwydd.

LLEOLIAD: Oriel Mission

Eventbrite - Kitchen Table Printmaking | Course for Adults

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Kat Ridgway, Cynorthwyydd Addysg a Chyfranogi ar 01792 652016 neu e-bostio education@missiongallery.co.uk

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly rhaid archebu ymlaen llaw. Dewch â phecyn cinio a rhoi gwybod i ni am unrhyw anghenion o ran mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol.

<< Yn ôl tudalen