I Oedolion

  • Header image

Gwneud ffelt Gweithdy

25 Ionawr - 25 Ionawr 2020

Dewch draw i ddysgu’r grefft o wneud ffelt gwlyb. Yn addas i ddechreuwyr a’r rhai sydd â mwy o brofiad. Byddwch yn dysgu sut i drawsnewid ffeibrau’n llun hardd y gallwch ychwanegu manylion mwy cywrain ato’n nes ymlaen drwy frodio, gleinio, paentio ac yn y blaen. Tirluniau, morluniau a lluniau haniaethol yw rhai yn unig o’r darnau gorffenedig y gallech eu creu.

 Eventbrite - Clay Animal Faces | Children's workshop

Mae Karen Teal yn athrawes gelf a thecstilau ers 32 o flynyddoedd. Yn dod o ogledd Cymru’n wreiddiol, mae wedi ennill profiad helaeth wrth addysgu yn Tsieina a’r Swistir gan ddychwelyd adre i Gymru yn ddiweddar. Mae Karen ar dân dros bob ffurf ar gelfyddyd a thecstil gan annog myfyrwyr i ddatblygu sgiliau, cysyniadau, dealltwriaeth a chreadigrwydd gyda hyder. Yn ei gwaith fel athrawes, mae Karen yn ysgogi cyfranogiad, edrych ar deimladau a gwybodaeth, i gyd yn cael eu mynegi gyda medr ac ymrwymiad. Mae ei haddysgu’n hybu mwy o hyder ac annibyniaeth bersonol, oll yn cael ei danategu gan ddiddordeb ysol mewn creadigrwydd.

Gwybodaeth Bwysig

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, felly rhaid archebu lle. Mae hyn yn cael ei wneud drwy ddefnyddio Eventbrite.

Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion o ran mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol. kat@missiongallery.co.uk

Mae Oriel Mission yn ymrwymedig i barchu’ch preifatrwydd. Yn ystod ein gweithdai a digwyddiadau, efallai y byddwn ni’n tynnu lluniau at ddefnydd dogfennu a hyrwyddo. O bosib, bydd y ffotograffau hyn yn cael eu rhannu â’n cyllidwyr a’u defnyddio ar ein gwefan ac yn y cyfryngau cymdeithasol. Os nad ydych am i ni dynnu llun ohonoch, rhowch wybod i aelod o staff ar y diwrnod.

Os oes gynnoch chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â diogelu data, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data: data@missiongallery.co.uk

<< Yn ôl tudalen