I Oedolion
Gweithdy Trosglwyddo GwresAlison Moger
20 Tachwedd - 20 Tachwedd 2021
11 - 3
£30
Addas i bobl 14 oed +
Eventbrite: Gweithdy Trosglwyddo Gwres
Artist tecstiliau yw Alison Moger y mae ei gwaith yn edrych ar bwytho a phrintio traddodiadol, gan dynnu ysbrydoliaeth yn aml o’i phrofiad ei hun wrth gael ei magu yng nghymoedd de Cymru a bywyd cymunedol. Mae Alison wedi arddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac mae hefyd yn aelod o Urdd Gwneuthurwyr Cymru.
Wrth gydweithio ag Alison, byddwch yn trawsnewid defnydd synthetig yn ddelweddau hardd a ddylunnir gynnoch chi’ch hun gan ddefnyddio gwrthrychau naturiol megis rhedyn, gweiriau, dail, plu, hen les a thorion papur. Dyma ffordd ecogyfeillgar o liwio defnydd a gallwch ei drin a’i drafod a’i bwytho unwaith i chi greu’r cynllun.
Darperir yr holl ddeunyddiau ar gyfer y gweithdy hwn, ond croeso i chi ddod â’ch deunyddiau’ch hun. Fodd bynnag, rhaid i’r defnydd fod yn wyn neu’n olau ac yn synthetig (o waith dyn) am y canlyniad gorau wrth brintio.
Fe’ch anogir hefyd i ddod ag unrhyw wrthrychau naturiol fel plu, gweiriau, dail neu flodau sychion a defnydd gwead agored, les a doilis papur i’w hychwanegu at eich cynllun.
Byddwn yn dilyn gweithdrefn olrhain cysylltiadau (gan ddefnyddio’r manylion a ddarperir ar eich ffurflenni caniatâd). Os bydd unrhyw unigolyn yn dangos arwyddion o symptomau COVID, hysbysir yr holl gyfranogwyr ac mae’r sesiynau’n debygol o gael eu canslo rhag ofn.
Oherwydd yr amgylchiadau sydd ohonynt, gall dosbarthiadau gael eu canslo/gohirio ar fyr rybudd. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd ag y gallwn ni i chi os bydd hyn yn angenrheidiol. Dylech fod ar gael yn ystod y sesiynau, pe bai angen i ni gysylltu â chi i gasglu’ch plentyn.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu ar 01792 652016 neu e-bost megan@missiongallery.co.uk
Darperir deunyddiau, nifer y lleoedd yn gyfyngedig, rhaid archebu ymlaen llaw.
Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol.