I Oedolion

  • Header image

Gweithdy Basgedi Anrhegion gyda Lewis ProsserLewis Prosser

01 Rhagfyr - 01 Rhagfyr 2024

Gweithdy Basgedi Anrhegion gyda Lewis Prosser

Dydd Sul 1af o Ragfyr

11am-3pm | £50 | Gweithdy i Oedolion

 

Bywgraffiad o’r artist:

Mae Lewis Prosser yn artist ac yn wneuthurwr basgedi abswrdaidd yng Nghymru, ac mae ei waith yn archwilio’r modd y mae crefft a diwylliant yn croestorri â’i gilydd. Mae ei waith yn archwilio treftadaeth anniriaethol basgedwaith, gan gymhwyso technegau traddodiadol i gyd-destunau cyfoes. Drwy addysgu, mae Lewis yn ceisio ailgysylltu pobl â'r tir, trosglwyddo sgiliau treftadaeth, ac annog dehongliadau newydd ar gyfer y byd modern. Mae ei waith wedi cael sylw mewn arddangosfeydd a phrosiectau cymunedol ledled y DU.

Eventbrite:Gweithdy Basgedi Anrhegion gyda Lewis Prosser

 

Mwynhewch dymor yr ŵyl gyda’n Gweithdy Hamperi Nadolig a Basgedi Anrhegion! Yn y sesiwn ymarferol hon, byddwch yn dysgu sut i blethu basged helyg agored o faint llawn – sy’n berffaith ar gyfer creu hamper Nadolig neu fasged anrhegion bersonol. Mae’r traddodiad o roi hamperi ar adeg y Nadolig yn dyddio’n ôl i oes Fictoria ac ers hynny mae wedi dod yn symbol arbennig o haelioni ledled Prydain ac maent yn aml yn llawn danteithion ac anrhegion tymhorol.

Gan ddefnyddio technegau plethu helyg traddodiadol gydag ychydig o gyffyrddiadau modern, byddwch yn dysgu sut i rwymo i fyny o sylfaen bren, adeiladu’r fasged gan ddefnyddio technegau codi a phentyrru, a gorffen gyda border addurniadol. Erbyn diwedd y gweithdy, bydd gennych fasged hyfryd, ymarferol—yn berffaith i’w rhoi’n anrheg i rywun (neu i'w cadw i chi eich hun!).

Darperir yr holl ddeunyddiau ac offer. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o blethu felly mae’r gweithdy hwn yn addas i ddechreuwyr.

Sylwch y gall plethu fod yn galed ar y dwylo ac mae angen deheurwydd.

 

Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda'r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn

Os ydych chi’n prynu'r gweithdy hwn fel anrheg, anfonwch ebost at outreach@missiongallery.co.uk i wneud cais am docyn i'w lawrlwytho.

 

--

Mae gweithdai o ansawdd uchel sy’n cael eu harwain gan artistiaid yn ganolig i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn Oriel Mission. Mae pob tocyn sy’n cael eu prynu’n cyfrannu at ein Rhaglen Allgymorth, ac mae’n cefnogi iawndal teg i’n hartistiaid talentog.

 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen