I Oedolion

  • Header image

Cyototeip Botanegol Gweithdy

25 Mai - 25 Mai 2019

11yb-4yp | £30 (Gostyngiad ar gael i Gyfeillion Oriel Mission a mynychwyr gweithdai blaenorol) | Yn addas i 16+ oed

Yn y gweithdy hwn, bydd yr artist Carly Wilshere-Butler yn eich tywys drwy’r broses o greu printiau seianoteip glas hardd. Enwogwyd y dull ffotograffig amgen yma gan y botanegydd Anna Atkins pan wnaeth ei ddefnyddio i gofnodi sbesimenau botanegol roedd wedi’u casglu. Dilynwch ei chamre drwy gynhyrchu’ch printiau/cardiau a labeli botanegol eich hun neu arbrofi gyda deunyddiau eraill a ddarperir. Os oes gynnoch chi unrhyw drysorau o’ch eiddo yr hoffech eu defnyddio i wneud printiau, dewch â nhw draw ar y diwrnod – darperir yr holl ddeunyddiau eraill.

LLEOLIAD: Oriel Mission

Eventbrite - Botanical Cyanotype

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Kat Ridgway, Cynorthwyydd Addysg a Chyfranogi ar 01792 652016 neu e-bostio education@missiongallery.co.uk

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly rhaid archebu ymlaen llaw. Dewch â phecyn cinio a rhoi gwybod i ni am unrhyw anghenion o ran mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol.


<< Yn ôl tudalen