I Oedolion

  • Header image

Cyflwyniad i ThecstilauGweithdai

06 Ebrill - 06 Ebrill 2019

11yb-4yp | £25 (Gostyngiad ar gael i Gyfeillion Oriel Mission a mynychwyr gweithdai blaenorol) | Yn addas i 16+ oed

Mae Karen Teal yn athrawes gelf a thecstilau ers 32 o flynyddoedd. Yn dod o ogledd Cymru’n wreiddiol, mae wedi ennill profiad helaeth wrth addysgu yn Tsieina a’r Swistir gan ddychwelyd adre i Gymru yn ddiweddar. Mae Karen ar dân dros bob ffurf ar gelfyddyd a thecstil gan annog myfyrwyr i ddatblygu sgiliau, cysyniadau, dealltwriaeth a chreadigrwydd gyda hyder. Yn ei gwaith fel athrawes, mae Karen yn ysgogi cyfranogiad, edrych ar deimladau a gwybodaeth, i gyd yn cael eu mynegi gyda medr ac ymrwymiad. Mae ei haddysgu’n hybu mwy o hyder ac annibyniaeth bersonol, oll yn cael ei danategu gan ddiddordeb ysol mewn creadigrwydd.

Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno sawl gwahanol dechneg decstilau i gyfranogwyr gyda gweithdai ar dechnegau penodol yn bosibl yn y dyfodol. Bydd y diwrnod yn cynnig blas ar brosesau megis pwytho â llaw, trafod defnydd, ffeltio, printio, gwehyddu, appliqué, brodwaith a thapestri. Yna bydd myfyrwyr yn gallu ychwanegu dimensiwn arall at eu gwaith eu hunain gan ddefnyddio unrhyw rai o’r technegau tecstilau hyn. Dewch ag unrhyw ddefnyddiau penodol i weithio â nhw os dymunwch, ond darperir yr holl ddeunyddiau.

LLEOLIAD: Oriel Mission

Eventbrite - Introduction to Textiles | Cyflwyniad i Decstilau

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Kat Ridgway, Cynorthwyydd Addysg a Chyfranogi ar 01792 652016 neu e-bostio education@missiongallery.co.uk

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly rhaid archebu ymlaen llaw. Dewch â phecyn cinio a rhoi gwybod i ni am unrhyw anghenion o ran mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol.

<< Yn ôl tudalen