I Oedolion
CeramegCwrs
13 Gorffennaf - 14 Gorffennaf 2019
10.30yb – 3.30yp | £75 (Gostyngiad ar gael i Gyfeillion Oriel Mission ac i’r rhai sydd
wedi mynychu gweithdai blaenorol) | Yn addas i 16+ oed
Dyddiadau’r Cwrs: 13 a 14 Gorffennaf
Mae’r gweithdy hwn dan arweiniad Daniel Butler.
P’un a ydych erioed wedi rhoi cynnig ar gerameg neu’ch bod wedi mynychu un o’n
cyrsiau blaenorol, bydd gan y gweithdy cerameg yma rywbeth i bawb.
Nod y cwrs deuddydd hwn yw ymdrin â phob cam o’r broses gerameg o’r adeiladu i’r
addurno a gwydro. Bydd gan y mynychwyr y cyfle i wneud eu llestri eu hunain i’w
haddurno gan ddefnyddio technegau addurno slip a gwydro cyffrous ac arbrofol.
Gyda dewis o brosiectau ar gael, i ddechreuwyr mae’r gweithdy hwn yn cynnig y
cyfle i ddysgu rhai technegau cerameg sylfaenol ac i gyfranogwyr sy’n dychwelyd y
cyfle i roi cynnig ar brosiect arall a helaethu eu profiad blaenorol.
Bydd Daniel Butler, Technegydd Cerameg PCDDS a cheramegydd proffesiynol, yn
rhoi pob cymorth i chi. Darperir clai a deunyddiau. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig
i sicrhau tiwtora digonol.
LLEOLIAD: Coleg Celf Abertawe PCDDS, Stryd De-La Beche, Abertawe, SA1
3EU
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Kat Ridgway, Cynorthwyydd Addysg a Chyfranogi ar 01792 652016 neu e-bostio education@missiongallery.co.uk
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly rhaid archebu ymlaen llaw. Dewch â phecyn cinio a rhoi gwybod i ni am unrhyw anghenion o ran mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol.