I Oedolion

  • Header image

Brasluniau Creadigol Gweithdy

03 Awst - 03 Awst 2019

11yb-4yp | £30 (Gostyngiad ar gael i Gyfeillion Oriel Mission a mynychwyr gweithdai blaenorol) | Yn addas i 16+ oed

Ofn y papur gwyn a ddim yn gwybod lle i ddechrau wrth agor llyfr braslunio? Dysgwch am bwysigrwydd gwneud marciau wrth greu cefndiroedd ar gyfer llyfrau braslunio a gwaith celf i helpu i roi dyfnder a gwead gwahanol i’ch gwaith. Bydd y gweithdai hyn yn gadael i gyfranogwyr roi cynnig ar ddulliau newydd a fydd yn cyfoethogi’r ffordd y maent yn gweithio ynghyd â thechnegau i ysgogi creadigrwydd ar y dudalen. Canlyniad y diwrnod fydd llwyth o bapurau a defnyddiau wedi’u haddurno, eu printio a’u trin a thrafod ynghyd â’r gallu i roi dimensiwn arall i weithio’n greadigol yn ogystal â gwybod sut i ddechrau gwneud celf gyda hyder.

Mae Karen Teal yn athrawes gelf a thecstilau ers 32 o flynyddoedd. Yn dod o ogledd Cymru’n wreiddiol, mae wedi ennill profiad helaeth wrth addysgu yn Tsieina a’r Swistir gan ddychwelyd adre i Gymru yn ddiweddar. Mae Karen ar dân dros bob ffurf ar gelfyddyd a thecstil gan annog myfyrwyr i ddatblygu sgiliau, cysyniadau, dealltwriaeth a chreadigrwydd gyda hyder. Yn ei gwaith fel athrawes, mae Karen yn ysgogi cyfranogiad, edrych ar deimladau a gwybodaeth, i gyd yn cael eu mynegi gyda medr ac ymrwymiad. Mae ei haddysgu’n hybu mwy o hyder ac annibyniaeth bersonol, oll yn cael ei danategu gan ddiddordeb ysol mewn creadigrwydd.

LLEOLIAD: Oriel Mission

Eventbrite - Introduction to Textiles | Cyflwyniad i Decstilau

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Kat Ridgway, Cynorthwyydd Addysg a Chyfranogi ar 01792 652016 neu e-bostio education@missiongallery.co.uk

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly rhaid archebu ymlaen llaw. Dewch â phecyn cinio a rhoi gwybod i ni am unrhyw anghenion o ran mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol.


<< Yn ôl tudalen