I Oedolion

  • Header image

Adleisio Sain a GwehydduCwrs (Diwrnod 4 o 4)

01 Medi - 01 Medi 2019

11yb-4yp | £150 am y 4 dyddiad (Disgownt ar gael am Ffrindiau Oriel Mission ac unigolion gweithdai blaenorol) | Yn addas ar gyfer oedran 16+

CYNNIG DISGOWNT: 3 dyddiad £105 or 1 dyddiad £40

 

Mae’r gweithdai “Adleisio Sain a Gwead” yn adlewyrchu poblogrwydd yr arddangosfa “Sain a
Gwead” yng Ngholeg Celf Abertawe PCDDS a’r gweithdy penwythnos gwehyddu tapestri gydag
Alastair Duncan yn Oriel Mission ym mis Mawrth.


Bydd y gyfres hon o weithdai dydd Sul hefyd yn canolbwyntio ar sain fel man cychwyn i ddylunio
mewn gwehyddu tapestri gan adael i ddechreuwyr ynghyd â gwehyddwyr mwy profiadol
ehangu eu profiad o ddehongli sain mewn dylunio yn ogystal â thechnegau sylfaenol ac uwch
mewn gwehyddu tapestri.


Bydd y gweithdai’n cynnwys troeon sain byrion a gwahanol ddulliau o ddehongli sain mewn
termau gweledol a gweadol gyda’r bwriad o ddatblygu dealltwriaeth a phrofiad mewn gwehyddu
tapestri drwy gynhyrchu crogluniau bach i’r wal.

Dyddiadau: Y Sul cyntaf yn y mis yn dechrau ddydd Sul 5 Mai, 2 Mehefin, 4 Awst a 1 Medi


Amserau: 11:00yb - 4:00yp


Nifer o leoedd: 8


Offer a deunyddiau: Darperir amrywiaeth o edafedd a deunyddiau ond croeso i gyfranogwyr
ddod â’u rhai eu hunain. Bydd fframiau tapestri a bobinau hefyd yn cael eu darparu.

LLEOLIAD: Oriel Mission

 

 Eventbrite - Echoing Sound and Weave | Course for Adults

 

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Kat Ridgway, Cynorthwyydd Addysg a Chyfranogi ar 01792 652016 neu e-bostio education@missiongallery.co.uk

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly rhaid archebu ymlaen llaw. Dewch â phecyn cinio a rhoi gwybod i ni am unrhyw anghenion o ran mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol.

<< Yn ôl tudalen