Digwyddiadau
That Would Be TelynLawnsiad Llyfr
15 Mai - 15 Mai 2019
Noson i ddathlu cyhoeddiad That Would be Telyn gan Delyth Jenkins. Mae’r llyfr yn dilyn taith ryfeddol Delyth ar hyd 186 milltir Llwybr Arfordir Sir Benfro gyda’i thelyn fach. Wedi’u plethu drwy hanes y daith mae hi’n cofio ei phlentyndod, ei bywyd gyda’i chyn-ŵr, y bardd y diweddar Nigel Jenkins, a’i gyrfa ym myd theatr a cherddoriaeth draddodiadol Cymru. Bydd Delyth yn darllen darnau o’r llyfr ac yn chwarae peth o’r gerddoriaeth wedi’i hysbrydoli gan ei thaith.
Tocynnau £5, i gynnwys gwydraid o win neu ddiod ysgafn.
Drysau yn agor am 7pm i ddechrau am 7.30pm