Digwyddiadau

  • Header image

Taith Arddangosfa gyda Cefyn BurgessTu ôl i’r blwch | Behind the box

20 Gorffennaf - 20 Gorffennaf 2024

Taith Arddangosfa: 2yp, Dydd Sadwrn, 20 Gorffennaf 2024

Am ddim | Croeso i bawb

Hoffai Oriel Mission eich gwahodd i agoriad arddangosfa Tu ôl i’r blwch, gyda taith arddangosfa gan yr artist Cefyn Burgess. 

Mae Tu ôl i’r blwch yn seiliedig ar ymweliad ymchwil cyntaf Cefyn â Gogledd Ddwyrain India, sef Bryniau Khasi a Jaintia a Mizoram. Taith i ddod i adnabod y bobl y tu ôl i’r blychau casglu y mae’n eu cofio o Ysgol Sul ei blentyndod.

Oherwydd y blychau casglu hyn, mae bryniau Khasi a Jaintia yn enwau sydd wedi gwreiddio eu hunain yng nghof Cefyn. Drwy'r prosiect parhaus hwn, mae Cefyn yn archwilio'r berthynas a'r hanes sy’n cael eu rhannu rhwng Cymru â thraddodiadau, iaith a diwylliant amrywiol bryniau Khasi a Jaintia yn Megahalaya, a sefydlwyd dros 150 o flynyddoedd.

Rhan o brosiect ymchwil diwylliannol parhaus yng Ngogledd Ddwyrain India, gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

 

Delwedd: Warws Shillong, Cefyn Burgess



<< Yn ôl tudalen