Digwyddiadau

  • Header image

Serameg i'r Cartref a'r ArddGweithdy i Oedolion

14 Ebrill - 15 Ebrill 2018

 

10.30yb - 3.30yp | £60 am ddau diwrnod 14 a 15 Ebrill (Disgownt ar gael i Ffrindiau Oriel Mission a chyfranwyr gweithdai blaenorol) | Yn addas ar gyfer oedran 16+

Yn dilyn ein gweithdy poblogaidd Serameg i’r Gegin hoffwn gyflwyno Serameg I’r Cartref a’r Ardd. Os ydych erioed wedi ymgeisio ar serameg neu wedi cymryd rhan yn ein cyrsiau blaenorol, mi fydd gan Serameg i’r Cartref a’r Ardd rhywbeth i bawb. 

Gydag amrywiaeth o brosiectau i ddewis, cyniga’r gweithdy yma gyfle i ddysgu rhai technegau sylfaenol serameg i’r rheiny sydd yn rhoi cynnig arni am y tro cyntaf neu gyfranwyr blaenorol sydd am geisio prosiect arall ac ehangu ar eu profiad cynt.

Bydd y gweithdy yma yn ffocysu ar wead, gan weithio gyda haenau o glai, a defnyddio slipiau lliw i addurno a ffurfio gyda mowldiau. Bydd hefyd cyfle i roi cynnig ar daflu ar yr olwyn i unrhyw un sydd  â diddordeb.

Darparir cefnogaeth lawn gan Daniel Butler, Technegydd Serameg PCYDDS a seramegydd proffesiynol. Darperir clai a defnyddiau. Llefydd yn brin

.

<< Yn ôl tudalen