Digwyddiadau

  • Header image

RhagarddangosfaCodi’r Bar

19 Gorffennaf - 03 Awst 2014

Fe’ch gwahoddir chi a’ch gwesteion i ragarddangosfa canlyniadau ail flwyddyn Codi’r Bar
 
2yp Sadwrn 19 Gorffennaf 2014
 
I’w agor gan Bella Kerr, Cyfarwyddwr Rhaglen Diploma Sylfaen Celf a Dylunio SMUWTSD
 
Rhaglen addysg celf yw Codi’r Bar sydd yn cynnig cyfleoedd ychwanegol i ddisgyblion talentog Celf a Dylunio Lefel AS ac A, i ddatblygu eu hymarfer creadigol a’u gwybodaeth o gelfyddyd weledol a chymhwysol. Cafwyd chwe dosbarth arbenigol dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf i ddisgyblion o ardal Sir Gaerfyrddin a Chastell-Nedd Port Talbot yn Metroplitan Abertawe UWTSD ac Oriel Mission, gan  defnyddio eu hoffer arbenigol. Roedd y dosbarthiadau yma yn cynnwys Arlunio, Dylunio Ffasiwn, Animeiddio, Ffotograffiaeth, Ymarfer Celf Gyd-destunol a Gwydr, gydag amrywiaeth o artistiaid sefydlog a darlithwyr. Mae’r arddangosfa yn cynnig crynodeb o’r hyn mae’r disgyblion wedi ei gyflawni dros y 9 mis diwethaf, gan ddangos gwaith o ansawdd uchel ac ymrwymiad yr unigolion.

<< Yn ôl tudalen