Digwyddiadau

  • Header image

Perfformiad Making Merrie gyda Lewis Prosser

11 Ionawr - 11 Ionawr 2024

Dydd Sadwrn 11 Ionawr 2025

3:30yp

AM DDIM | Croeso i bawb


Mae Making Merrie gan Lewis Prosser yn brosiect perfformio ddwyieithog sydd yn archwilio theatr gwerin. Wedi’i ysbrydoli gan ddramâu mudchwarae (‘mummers’) a thraddodiadau o wisgo masgiau ar hyd y ffin o Gymru/Lloegr, mae Making Merrie yn cyfuno crefft, perfformiad ac iaith i adlewyrchu ar dreftadaeth a chyfnewidiadau diwylliannol.

Mae dramâu mudchwarae yn berfformiadau gwerin draddodiadol â gwreiddiau o dros 500 mlynedd ac yn aml wedi’i chysylltu i ddathliadau Nadolig a Blwyddyn Newydd. Yn llawn hiwmor a miri digymell bu’r dramâu yma yn cael ei berfformio mewn cartrefi, tafarnau ac ar y strydoedd, gan grwpiau amatur a bu’n adrodd straeon syml o frwydrau, marwolaeth ac adfywiad gwyrthiol. Yn wahanol i’r dramâu Dirgelwch crefyddol, mae dramâu mudchwarae yn seciwlar, fel carnifal ac yn cael ei berfformio am adloniant a hwyl gymunedol.

Mae’r prosiect yn cyflwyno gwisgoedd gwiail mawr wedi’i crefftio â llaw gan ddefnyddio technegau gwaith helyg rhanbarthol, gan amlygu basgedwaith fel sgil hanfodol yr ydym mewn perygl o anghofio – sgil os caiff ei golli bydd fel colli darn o’r hyn sydd yn ein gwneud yn ddynol.

Mae’r sgriptiau yn cymysgu Cymraeg a Saesneg mewn tafodiaith ffôl wedi ei chyfuno efo symudiad byrfyfyr a gorymdaith carnifal. Heb ei ymarfer ac wedi ei leoli o fewn y gymuned, mae’r perfformiadau yn gwahodd chwarae digymell, llawenydd a hiwmor. 

Yn wreiddiol o Fryste, wedi byw yng Nglasgow a bellach yng Nghaerdydd, mae Prosser yn defnyddio’r gwaith yma i adlewyrchu ar ei daith bersonol ar hyd y Deyrnas Unedig, gan arsylwi ar sut mae crefft a pherfformio yn cysylltu pobl efo’r tirwedd. Trwy Making Merrie, y mae’n trin ffiniau ieithyddol a daearyddol fel mannau dynamig am gyfnewid diwylliannol sydd yn maethu synnwyr dyfnach o ymberthyn a hunaniaeth.

Wedi’i chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Oriel Davies, Chapter Arts, Oriel Mission a Galeri Caernarfon, bydd y gwaith yn cael ei harddangos yng Ngaleri Caernarfon o fis Chwefror i fis Ebrill 2025.

Credyd llun: David Sinden

<< Yn ôl tudalen