Curadur Ifanc ar gyfer Arddangosfa Criw Celf 2021
Rydym yn chwilio am guradur ifanc a brwd i gynorthwyo gydag arddangosfa Criw Celf 2021 eleni!
Prosiect a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru yw Criw Celf sy’n dwyn at ei gilydd y myfyrwyr mwyaf galluog a dawnus yn y celfyddydau gweledol rhwng 9 a 18 oed. Rhan o fenter genedlaethol yw hon i feithrin doniau artistig ifainc yng Nghymru. Mae Criw Celf yn ceisio datblygu gwaith creadigol disgyblion a’u gwybodaeth am y Celfyddydau Gweledol a Chymhwysol drwy gyfres o ddosbarthiadau meistr.
Mae’r dosbarthiadau meistr hyn yn cael eu harwain gan artistiaid a dylunwyr proffesiynol sy’n cynnig ymchwiliad ehangach i ddulliau’r celfyddydau gweledol. Mae’r dosbarthiadau meistr wedi cynhyrchu amrywiaeth o ddeilliannau creadigol – o gerameg i sgrîn-argraffu, i waith gwydr ac arlunio o’r byw. Mae’r arddangosfa’n dwyn at ei gilydd y darnau cyffrous yma’n gyfanwaith cydlynus sy’n amlygu cyflawniadau eithriadol y 90 o artistiaid ifainc yma.
Disgwylir i’r Curadur ifanc gynorthwyo a chysgodi’r Curadur arweiniol wrth greu’r arddangosfa hon. Does dim angen profiad blaenorol ond mae diddordeb a brwdfrydedd ysol am guradu’n hanfodol. Bydd y curadur ifanc yn hyderus wrth gyfrannu syniadau arloesol, wrth gynorthwyo gyda’r holl elfennau ymarferol o osod yr arddangosfa.
Mae gan Oriel Mission enw da iawn am y sioeau arddangos hyn ac yn flynyddol wedi neilltuo lle yn ei hamserlen arddangosfeydd i ddod â gwaith yr artistiaid ifainc yma i’r blaen. Ac felly disgwyliwn i’n sioeau Criw Celf fod yr un mor broffesiynol a rhagorol â gweddill ein rhaglen arddangosfeydd.
Ffi’r Curadur Ifanc £300
Mae’r arddangosfa’n rhedeg o ddydd Sadwrn 11 tan 25 Medi 2021 gyda’r wythnos cyn hynny ar gael i’w gosod.
Os hoffech chi ymgeisio am y safle hwn, cwblhewch ein ffurflen cais.
Curadur Ifanc ar gyfer Arddangosfa Criw Celf 2021 ffurflen cais
Y dyddiad cau am geisiadau yw dydd Gwener 30 Gorffennaf 2021.
Hysbysir yr ymgeiswyr llwyddiannus ddydd Gwener 6 Awst 2021.
Os oes gynnoch chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â megan@missiongallery.co.uk