Galwad Agored | Yn berffaith rhyfedd...
Y syniad
Fuoch chi ’rioed yn adrodd stori a oedd i swnio yn ddigon diniwed i ddechrau ond fel iddo fynd ymlaen daeth yn fwy rhyfeddol?
Yn yr arddangosfa yma, ein nod yw dod ag artistiaid a gwneuthurwyr sydd wedi ei hysbrydoli gan storiau a chwedlau at ei gilydd. Gall rhain fod yn storiau Cymreig neu rhai o diroedd pellach - unrhywbeth sydd yn dal y dychymyg; sy’n berffaith rhyfedd.
Y cyfle
A ydych chi’n artist neu wneuthurwr o Gymru, wedi eich hysbrydoli gan storiau neu chwedlau? Hoffech chi gyfle i arddangos a gwerthu'ch gwaith?
Arddangosfa wedi ei guradu fydd 'Yn berffaith rhyfedd / Perfectly strange...', yn cynnwys gwaith gan artistiaid a wahoddwyd, ynghyd ag artistiaid a gwneuthurwyr dethol o'r galwad agored yma. Gan gynnwys gwaith gan artistiaid newydd a sefydledig; cyfle i fwynhau a buddsoddi yn ein cymuned greadigol. Mi fydd rhan fwyaf o’r gwaith ar werth ac ar gael i’w cymryd ar y diwrnod. Ynghyd a’r arddangosfa fe fydd rhaglen o berfformiadau, gweithdai a gweithgareddau, gan greu lle diogel i fwynhau ymarfer creadigol; i bawb.
Dyddiadau arddangosfa: 30 Tachwedd 2024 - 11 Ionawr 2025
Sut i ymgeisio?
Rydym ni’n croesawu ceisiadau o bob disgyblaeth - yr unig gofyniad yw bod eich gwaith naill ai wedi ei ysbrydoli gan storiau neu chwedlau. Rydym ni’n annog artistiaid a gwneuthurwyr o bob lefel o’u gyrfa i ymgeisio.
Mi fydd gwaith yn cael ei werthu ar sylfaen comisiwn o 40% gyda VAT. Byddwn ni'n delio gyda’r arddangos a’r gwerthu, ac, ar ddiwedd yr arddangosfa, y pacio a’r taliad i chi.
I wneud cais:
Datganiad byr amdanoch chi a’ch gwaith, gan gynnwys ychydig frawddegau am y storiau neu’r chwedlau sydd yn eich hysbrydoli
Casgliad o ddelweddau
Rhestr Pris (os oes gennych chi un)
Dyddiad cau am geisiadau: 8yh, Dydd Sul 13 Hydref 2024
Anfonwch eich cais i:
Gan ddefnyddio ‘Yn berffaith rhyfedd / Perfectly strange’ yn y llinell bwnc.
Nodiadau ychwanegol:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch a:
Rhian Wyn Stone | rhian@missiongallery.uk
Os yn llwyddiannus gyda'ch cais, rhaid i'r gwaith fod wedi cyrraedd Oriel Mission erbyn 16 Tachwedd 2024.