Yr Oriel
Ystyron a NegeseuonCymdeithas Gemwaith Cyfoes
19 Tachwedd - 21 Rhagfyr 2022
Mae’n bleser gan Oriel Mission gyflwyno Ystyron a Negeseuon, taith deithiol gan y Gymdeithas Gemwaith Cyfoes.
Mae’r arddangosfa hon yn canolbwyntio ar froetshiau, gan eu bod yn ffurfio'r archdeip gemwaith delfrydol ar gyfer cyfleu ystyron a negeseuon. Gall broetshiau fod yn chwyldroadol ac fe'u defnyddir yn aml gan bobl yn llygad y cyhoedd, ffigurau gwleidyddol, neu’r teulu brenhinol i gyfleu negeseuon pwysig. Gall y negeseuon hyn fod yn gudd, yn gynnil neu'n fwy o brotest amlwg!
Mae'r ymateb i'r briff yn amrywiol - gyda llawer o dynnu ar heriau byd-eang megis newid hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol, llywodraethu, adnoddau, llygredd, pandemigau, a gwrthdaro. Mae rhai yn ffurfio teyrngedau personol i anwyliaid ac arwyr. Mae harddwch y byd natur yn chwarae rhan amlwg, naill ai drwy ddal rhyfeddod y bywyd o'n cwmpas, neu wasanaethu fel gwrthrych i’n hatgoffa o'r effaith a gawn fel ceidwaid ein planed.
Mae Ystyron a Negeseuon wedi'u curadu'n chwe thema wahanol; yn sbarduno deialogau rhwng y broetshiau yn ogystal ag annog sgyrsiau a myfyrdodau gan wylwyr.
Delwedd: Avalon, Kim Nogueira