Yr Oriel

  • Header image

 Llygaid EraillArddangosfa Enamel a Ffotograffiaeth

24 Tachwedd - 05 Ionawr 2019

‘Mae ffotograffiaeth wedi newid, wedi ehangu a hyd yn oed twyllo ein canfyddiadau. Mae’n llestr cof, ac eto’n arf cywirol o hynny hefyd.

Mae’n tystiolaethu diflaniad pethau, ‘cyflwr y byd yn ein habsenoldeb’ a’r un pryd yn cynhyrchu delweddau sy’n efelychu realaeth.’

Jean Baudrillard

Daw  Llygaid Eraill ag ystod amrywiol o artistiaid a gwneuthurwyr rhyngwladol at ei gilydd. Bydd y bobl hynyn cynnwys ffotograffiaeth fel elfen yn eu gwaith a thrwy’r ymgysylltiad hwn, byddant yn cyfrannu at y sgwrs barhaus ar gynrychioliad ffotograffig yn y celfyddydau cymhwysol.

Fe leolir ffotograffiaeth yn y gofod cymhleth o realaeth ac ymwybyddiaeth ymddangosiadol, eto caiff ei llunio’n hanfodol gan oddrychedd, cipio delweddau drwy lens cof, profiad a dehongliad personol.

Mae’r arddangosfa’n darlunio dull unigol y gwneuthurwr o ran ffotograffiaeth, yn archwilio’r undeb rhwng gwneud a’r ddelwedd ffotograffig yn yr ystyr ehangaf. Mae’n cipio cipolwg o’r posibiliadau creadigol sy’n ganlyniad i arfermor gymysgryw.

Bydd yr artistiaid a ddewiswyd yn gweithio ar raddfeyddgwahanol iawn, yn amrywio o emwaith i osodiadau arraddfa fawr, ac mae’r artistiaid i gyd yn gweithio mewn metel. I rai gwneuthurwyr, bydd ffotograffiaeth yn hawlio rôl ganolog yn eu harfer ac i eraill mae’n gyfrwng paralel, yn cael ei arddangos ochr-yn-ochr â’r gwaith neu’n arf ymchwil cudd sy’n darparu’r ‘llygad arall’ sy’n ymgorffori gwrthrych y ffotograff yn y gwaith.

Bydd y gwneuthurwyr yn defnyddio llu o ddulliau i integreiddio delwedd y ffotograff yn y gwaith. Mae rhai o’r dulliau’n cynnwys defnyddio’r ddelwedd sy’n symud ochr- yn-ochr â’r gosodiad (Peters), ffoto-ysgythru ar arian, dur gwrthstaen, sinc (Speckner, Gegenwart); odyn-ymdoddi i mewn i wydr ac enamel (Haydon, Speckner, Schaupp, de Vries Winter, Cameron, Walz); ail-ddychmygu’r ffotograff mewn enamel neu fetel (Wiesmann, Maierhofer, Carnac/ Gates, Ishikawa, Juzu, Veit, Bottomley) argraffu pigment delweddau digidol yn uniongyrchol ar ddur (Hart); amglorio delweddaeth ffotograffig mewn resin (Hannon, Gianocca) neu guddio’r ddelwedd yn rhannol dan alabastr (Puig Cyuás).

Curadur: Beate Gegenwart Cynhyrchydd: Gregory Parsons

 

Image Credit: Rebecca Hannon

<< Yn ôl tudalen