Yr Oriel

  • Header image

OlionKate Haywood

21 Medi - 09 Tachwedd 2019

Agoriad Arddangosfa: Kate Haywood yn sgwrsio gyda Claire Curneen

2yp Dydd Sadwrn 21 Medi 2019

 

Mae ffurfiau porslen cywrain Kate Haywood yn gadarn ac yn delicét ar yr un pryd. Wedi’u gwneud â sylw craff i fanylder, mae pob eitem yn fanwl gywir ac yn gain.

Mae Kate â diddordeb ysol mewn gwrthrychau, weithiau gwrthrychau a ddelir yn y llaw, yn aml gwrthrychau o’r gorffennol. Mae’n cribinio’n ddyfal drwy gasgliadau amgueddfeydd ac yn ymchwilio i archifau i adnabod darnau diddorol a’u pwrpas. Mae gwaith diweddar Kate wedi’i ysbrydoli gan gemau plant, gemau o gyfnod pan fyddent yn cael eu chwarae yn amlach ar y stryd nag sy’n digwydd heddiw efallai.

Mae cyfuno ei cherfluniau ceramig â deunyddiau eraill yn ychwanegu haenau o ran cyfeiriadau ac apêl. Bydd pawb yn nabod gwahanol bethau sy’n canu cloch yn ei chorff gwaith newydd.

Cyfres o arddangosfeydd teithiol cenedlaethol yw Iaith Clai. Trefnir y fenter gan Oriel Mission yn Abertawe a’i chyflwyno mewn partneriaeth â Chanolfan Grefft Rhuthun, Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Oriel Gerameg Aberystwyth. Ariennir y fenter gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Bydd arddangosfeydd Iaith Clai ar daith i ganolfannau ar draws Cymru yn ystod 2017 – 2019. Gyda rhaglenni o weithgareddau i gyd-fynd â nhw, byddant yn cynnig cyfleoedd i ni ehangu ymhellach y sylw a roddir i waith cerameg a chwrdd â rhai o’n hartistiaid cerameg gwych.

<< Yn ôl tudalen