Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

TracesAinsley Hillard

19 Medi - 08 Tachwedd 2008

Mae’n bleser gan Mission Gallery gyflwyno gosodiad safle-benodol gan yr artist tecstilau o Sir Gâr, Ainsley Hillard.  Bydd Hillard yn creu gosodiad wedi’i ysbrydoli gan hanes cymdeithasol a phensaernïol Mission Gallery, gan archwilio’r cydberthnasau rhwng pobl, y cof a gofod.

Bydd Hillard yn creu cyfres o strwythurau wedi’u gwehyddu â llaw gan ymgorffori cyfryngau megis ffotograffiaeth a phrint, sy’n integreiddio strwythur a delwedd.  Mae’r delweddau ffotograffig o wrthrychau megis cadeiriau capel, byrddau darllen a llyfrau yn mynegi ymdeimlad o hanes sy’n gyffredin i bawb, a gorffennol anadferadwy.  Gweddnewidir y delweddau hyn i strwythurau wedi'u gwehyddu drwy broses o drosglwyddo gwres ar i’r fiscos anwe tryloyw cyn eu gwehyddu â llaw drwy ystofi monoffilament neilon.

Mae’r delweddau terfynol, wedi’u gwehyddu’n ffurfiau strwythurol, yn cysylltu â’i gilydd â’r ffabrig yn gorgyffwrdd.  Mae symudiad y gynulleidfa drwy’r gofod yn galluogi’r delweddau i ddod ymlaen ac encilio, fel taith yr edau sy’n teithio drwy’r strwythur ystof.  Mae lluosogrwydd y safbwyntiau a phersbectifau yn ailysgogi golwg ymylol ac yn atgyfnerthu profiad cyffyrddiadol.

Yn yr oriel mae gosodiad clywedol yn taflu seiniau gwibiog o seinyddion gellir ond eu derbyn bob hyn a hyn wrth i’r gynulleidfa symud drwy’r gofod, gan greu’r corff yn gerbyd profiad.  Mae’r seiniau a grëir yn ein hatgoffa o’r gwrthrychau a oedd yn bodoli yn y gofod ar ryw adeg ond yn parhau’n gyfarwydd, megis troi tudalennau llyfr, symudiad inc wrth ysgrifennu ar bapur, sŵn cloch yn canu fel galwad i bobl ymgynnull neu signal llong ar goll ar y môr.

Ganwyd Ainsley Hillard yn Sir Gâr, Cymru.  Graddiodd yn 2000 o Brifysgol Middlesex wedi astudio Tecstilau Adeiledig, derbyniodd Hillard Ysgoloriaeth James Pantyfedwen yn 2001 a 2002 i barhau Astudiaethau Ôl-raddedig mewn Celf Weledol ym Mhrifysgol Curtin, Awstralia.  Yn 2003 arddangosodd y gwaith 'In Passing' yn Oriel Gelf John Curtin ac yna parhaodd i fyw a gweithio yn Perth tan Chwefror 2007, yn gweithio fel Swyddog Technegol a Darlithydd Rhan-amser yn Adran Gelf Prifysgol Curtin.

Mae Hillard wedi arddangos gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.  Mae arddangosiadau unigol yn y gorffennol wedi cynnwys ‘'Parallax' yng Nghanolfan Gelfyddydau Fremantle, gorllewin Awstralia ym mis Mai 2004.  Roedd yr arddangosfa’n cyd-daro â’u Chynhadledd Decstilau Rhyngwladol 'The Space Between'.  Cynrychiolir ei gwaith hefyd mewn Casgliadau Rhyngwladol megis Casgliad Tecstilau Lloyd Cotsen yn UDA.

Mae Hillard wedi dychwelyd yn ddiweddar i fyw a gweithio yng Nghymru, ac ar hyn o bryd mae’n ddarlithydd rhan-amser ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe.

<< Yn ôl tudalen