Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

The Enclosed GardenKeith Bayliss

04 Chwefror - 24 Mawrth 2012

Mae cast Keith o angylion, ffyliaid, plant-oedolion a theithwyr i gyd yn bobl ddiniwed yn teithio mewn byd rydyn ni’n ei weld gyda synnwyr o ryfeddod, gan fod ganddo ddawn yr artist i’n galluogi ni i weld y byd fel maen nhw’n ei weld.  Er bod eu cyrff yn aml yn cael eu cynrychioli’n fregus a sgematig, mae eu hwynebau’n hardd ac yn llawn dynoliaeth, oherwydd ei fod yn gwybod ble i roi manylion trawiadol a sut mae gwneud i ffwrdd â’r dianghenraid, a thrwy hyn awgrymu syniadau cymhleth trwy symlrwydd ffurf dwyllodrus. Mae ei dynerwch tuag at ei greadigaethau yn glynu ynddyn nhw, yn estyn allan i’r gwyliwr ac yn dal fel ochenaid yn y frest, oherwydd ein bod yn teimlo drostyn nhw ac yn ofni drostyn nhw i’r un graddau, y cyfranogwyr yma mawn dirgelwch hynafol.

 

Mae Keith a minnau’n rhannu hoffter o’r Romanésg. Dydyn ni erioed wedi trafod hyn ond rydw i’n gwybod ei fod yn wir, gan mod i wedi gweld hyn yn ei luniau a’i baentiadau. (Yn fwyaf arwyddocaol yn ei addurniadau wedi eu torri o goed ar gyfer rhifyn gwasg yr ‘Old Stile Press’ o 'White Voices' gan Marcel Schwob[1], wedi ei gyfieithu gan Malcolm Parr.) Rydyn ni’n dau wedi creu delweddau sy’n cyfeirio at y Cyfarchiad a’r Hortus Conclusus, ac rydyn ni’n dau’n ail archwilio’n obsesiynol y themâu rydyn ni wedi eu dewis oherwydd trwy wneud hyn rydyn ni’n gobeithio un diwrnod y byddwn ni’n eu deall yn ddigon da i greu rhywbeth fydd yn werth edrych arno. Felly doedd hi ddim yn syndod llwyr pan welais i’r ‘ymwelwyr’ hedegog (disgrifiad yr artist) a’r tystion afieithus sydd wedi ei  feddiannu mor hir, trwy’r idiom blastig newydd o’i fynegiant ynghyd â’i ymdriniaeth o’r lle mae’r ffigurau’n bodoli ynddyn nhw, mae’n ddatguddiad. Mae’r gwrid ysgafnaf yn cynhesu eu croen. Maen nhw’n blentynnaidd ac yn hynafol fel y sffincs yr un pryd, tric clyfar ar ran yr artist, oherwydd mae’n rhaid i’r hyn sydd y tu ôl i’w mynegiannau ein syfrdanu a bod y tu hwnt i’n cyrraedd am byth. (Mantais i’r artist, fel y gwyddai Leonardo yn dda! Mae’r cyfrwyster ystyr wedi ei lunio o bapur sidan a’r olion pigment yn ein tynnu’n nes i archwilio ac i  ddyfalu wrth i ni gael ein gorchuddio â’r disgleirdeb gaiff ei adlewyrchu. Bydd dynoliaeth bob amser yn cael ei dynnu at yr wyneb, lle bydd yr holl gwestiynau ac atebion yn cael eu ceisio, os nad bob amser yn cael eu canfod.

 

Mae oriel y Mission Gallery wedi cael ei thrawsnewid gan yr artist. Fydd ei geometreg a’i golau fyth yn ymddangos yr un peth o hyn ymlaen, gan iddi gael ei llenwi â phresenoldeb llachar a llwybrau angylion. Allai ddim peidio â theimlo y bydd gwaith Keith yn parhau am amser maith ar ôl i’r arddangosfa ddiflannu, gydag atgofion amdani wedi gadael eu hôl ar aer a waliau’r lle.   

 

Clive Hicks-Jenkins 2011



[1] Schwob, M., 2001. White Voices (La Croisade des Enfants) Llandogo: The Old Stile Press 

<< Yn ôl tudalen