Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

The Curious World of Becky AdamsBecky Adams

02 Ebrill - 22 Mai 2011

Mae’n bleser gan Mission Gallery gyflwyno Arddangosfa Deithiol Canolfan Grefft Rhuthun a Chanolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange gan yr artist o Gaerdydd, Becky Adams.

 

Mae Becky Adams yn gasglwr storïau; maent yn dod yn rhan annatod o’i bywyd ac maent yn rhan o broses greu ei gwaith drwy ddefnydd soffistigedig o bwytho, hen ffabrig ac effemera hynafol.  Mae Byd Hynod Becky Adams yn archwilio’r cysylltiadau rhwng testun a thecstil, gan gyflwyno casgliad o weithiau cymhleth sy’n cyfuno papur gwaith-llaw, rhwymo llyfrau, hen ffotograffau, hen ffabrigau ac effemera hynafol.

 

Ysbrydolir yr arddangosfa unigryw hon gan “storïau; barddoniaeth; adar yn canu; hen siopau dillad; marchnadoedd cyfnewid… pethau bach, pethau disylw, pethau y mae angen eu hachub”.  Mae’r rhestr yn hir, ond nid yw’n gyflawn.  Mae tristwch cynnil wedi’i guddio o dan haenau’r addurn, a fydd yn weladwy i’r rhai sy’n tynnu haenau ystyr yn ôl gan bwyll ac yn archwilio i waith mewnol yr artist.

 

Meddai Hannah Kelly, Swyddog Arddangosfeydd Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, yn ei thraethawd catalog, “Ceir cipolwg cynnil a pharchus ar astudio’r cyflwr dynol; mae pob darn yn ymwybodol o’i orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol nas dywedwyd eto.  Drwy iaith naturiol ei gwaith, daw pob darn yn ymgorfforiad o stori a gadwyd o fewn pob pwyth gofalus.  Ffurfia’i hastudiaethau Llenyddiaeth Saesneg a Chelf Gain sylfaen ei diddordeb yn y cysylltiadau rhwng testun a thecstil.  Gellir gweld y darluniau pwyth yn ei llyfrau fel datblygiad rhesymegol proses dechnegol pwytho a rhwymo llwybrau.  Mabwysiadodd syniad llyfr yr artist i roi gofod preifat i’r darllenydd lle gellir cymryd amser i adlewyrchu ar ei fywyd ei hun a phrofiadau’r gorffennol”.

 

Mae gwaith Becky Adams yn atgof o brofiad o’r gorffennol ac yn myfyrio ynghylch themâu cof, cofrodd a chadw’r hyn y gellid ei golli fel arall.

<< Yn ôl tudalen