Yr Oriel
Slipping the TrailPhilip Eglin
16 Ebrill - 05 Mehefin 2016
“Rwyf am gydnabod traddodiad gwaith slip tra’n ceisio ar yr un pryd ei ailfywiogi am y presennol”.
-Phillip Eglin
Mae’n bleser gan Oriel Mission dderbyn yr arddangosfa deithiol yma - cydweithrediad rhwng Archif a Chasgliad Serameg Prifysgol Aberystwyth a Philip Eglin, un o’r prif seramegwyr yn y DU.
Ymwelodd Philip Eglin y casgliad dros gyfnod y prosiect gan dynnu darluniau a lluniau o ddarnau allweddol. Mae Eglin wedi bod yn fenthygiwr erioed, gan ymateb i’r pethau mae’n ei garu yn y byd o’i amgylch. Peintiadau, hen botiau, darluniau plant neu boteli plastig - oll yn dod yn ffynhonellau ysbrydoliaeth a phwyntiau i setio llygad yr artist ar daflwybr newydd. Mae’n mwynhau gweithio gyda chasgliadau amgueddfa ac yn Aberystwyth, daeth i adnabod casgliad gwaith slip y deunawfed ganrif, llawer ohono o Buckley yng Ngogledd Cymru, fel potensial am gorff newydd o waith.
Mae’n hynod briodol i’r arddangosfa bod y ffotograffydd, Oliver Eglin, mab Philip, wedi cytuno cynhyrchu’r delweddau prydferth i’r catalog ac o’i dad yn y stiwdio. Mae’r catalog lliw 66 tudalen sydd yn dod gyda’r arddangosfa, yn cynnwys traethodau gan David Whiting, Jill Pearcy a Josie Walter. Mae’n cynnwys delweddau o ddarluniau cynnar Philip Eglin, Crochenwaith Buckley o’r Casgliad Serameg wedi eu tynnu yn Ngwesty Nanteos, ac wrth gwrs gwaith gorffenedig Philip Eglin , wedi ei ddogfennu gan ei fab Oliver.