Yr Oriel

  • Header image

Gweledig ac AnweledigIngrid Murphy

02 Chwefror - 23 Mawrth 2019

Rhan o Iaith Clai 
Curadwyd gan Ceri Jones

 

‘Mae Ingrid Murphy yn chwarae gyda chonfensiynau gwaith cerameg. Mae ei gweithiau’n gwahodd profiad a rennir yn hytrach na myfyrio esthetig pur’. Martina Margetts. 

Mae cysylltedd yn hollbwysig i Ingrid Murphy, rhwng pobl a lleoedd ac ar draws amser. Mae ei hymchwiliadau’n ein pryfocio ac yn ein synnu wrth iddi gyfuno prosesau cerameg traddodiadol â thechnolegau creadigol. Boed yr olygfa o’r tu mewn i debot neu synau strydoedd Jaipur, mae ei darnau’n ein cysylltu â gwahanol bersbectifau a storïau. Helaethiad ffraeth o ieithoedd a phriodweddau clai yw Gweledig ac Anweledig.

-Ceri Jones, Curadur y gyfres

 

Sioe un-ddynes gyntaf Ingrid Murphy yw Gweledig ac Anweledig. Mae’n cynnwys elfennau rhyngweithiol ac mae’r holl waith (ac eithrio un eitem sydd wedi’i hailgomisiynu) yn newydd. Bydd yr arddangosfa yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ynghlwm â’r Ŵyl Gerameg Ryngwladol.

 

Amserlen Deithio:

Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange
30 Mawrth – 18 Mai 2019

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
25 Mai – diwedd Gorffennaf 2019

 

Cyfres o arddangosfeydd teithiol cenedlaethol yw Iaith Clai. Trefnir y fenter gan Oriel Mission yn Abertawe a’i chyflwyno mewn partneriaeth â Chanolfan Grefft Rhuthun, Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Oriel Gerameg Aberystwyth. Ariennir y fenter gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Bydd arddangosfeydd Iaith Clai ar daith i ganolfannau ar draws Cymru yn ystod 2017 – 2019. Gyda rhaglenni o weithgareddau i gyd-fynd â nhw, byddant yn cynnig cyfleoedd i ni ehangu ymhellach y sylw a roddir i waith cerameg a chwrdd â rhai o’n hartistiaid cerameg gwych.

 

 

 

 

<< Yn ôl tudalen