Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Second Star to the Right and Straight on Until MorningBen Rowe

04 Mehefin - 24 Gorffennaf 2011

Mae’n bleser gan Mission Gallery gyflwyno’r arddangosfa hon gan Ben Rowe, artist o Fryste sy’n gweithio o’i stiwdio ar Spike Island.  Gan ddefnyddio cyfoeth o adnoddau ffilmiau a diwylliant poblogaidd y 1980au, thema ganolog y sioe hon yw dianc, wrth i Rowe ddewis ailadeiladu golygfeydd a phropiau o byrth neu ddrysau adnabyddus i amser a lle arall.  Gan ddefnyddio byrddau ffibr dwysedd canolig (MDF) sydd wedi’u hadennill yn bennaf, mae Rowe yn ail-greu’r replicâu maint llawn hyn o bropiau’r ffilmiau cysylltiedig ar gyfer gwaith newydd a safle-benodol yn yr oriel.

 

Mae Rowe yn creu gwrthrychau manwl gymhleth sy’n dangos sawl gwedd ac arwyneb gwahanol gan wneud elfennau papur, metel a thrydanol y gwrthrych yn gyffyryddol a chredadwy.   Y thema a ailadroddir yw teithio, boed i fydoedd ffuglennol na chyrhaeddodd fyth, neu i fydoedd pell ffantasi.  Mae’r cynhwysydd toddyddion a’r hofranfwrdd o ‘Back to the Future’, a’r allwedd gosmig o’r ‘Masters of the Universe’ llai adnabyddus, yn enghreifftiau o hyn.

Fel y noda David Trigg yn ei draethawd catalog, ‘Anturiaethau Ardderchog Ben Rowe’, mae  crefftwaith yn hynod bwysig i Rowe; “Mae ei benderfyniad i greu ei waith gan ddefnyddio’r amnewidyn pren amlbwrpas, sy’n hynod boblogaidd ymhlith pobl sy’n mwynhau DIY, hefyd yn gyswllt â’i blentyndod.  Treuliai lawer o’i amser gyda modelau Airfix a chitiau crefft DIY, ac mae meddylfryd yr hobïwr yn parhau i dreiddio’i waith.  Nid yw hynny’n golygu fod unrhyw beth amaturaidd am y cerfluniau hyn; i'r gwrthwyneb, mae’r dechneg y dysgodd Rowe iddo’i hun yn berffaith, yn arddangos lefel sgil anghyffredin… [mae Rowe] yn galaru colled sgiliau crefftwr ac yn gresynu’r diffyg cyfarwyddyd technegol a dderbyniodd yn yr ysgol gelf.  Fel modelau Airfix ei lencyndod, mae gwaith Rowe yn aml wedi’i greu o gannoedd o ddarnau llai, pob un wedi’u crefftio’n llafurus â llaw yn ei stiwdio ym Mryste.  Mae ei broses yn un hir lle gall darn o waith gymryd rhwng pedwar a chwe mis i’w gwblhau.”


Mae ei waith penodol i safle newydd i Mission Gallery, ‘Y Tu Ôl i Ddrws Wonka’, yn fyd hyfryd, ecsentrig, ond mae ochr sinistr iddo hefyd.  Yn wir, mae nifer o’r ffilmiau sy’n ysbrydoliaeth i Rowe yn rhagweld dyfodol dibaradwys neu fydoedd cythryblus.

 

Mynega Rowe beth o’i awydd ei hun i ddianc rhag realiti, ac mae hefyd yn crybwyll gallu celf i fynd â ni o ddiflastod normalrwydd i fyd rhyfedd lle mae unrhyw beth yn bosib.

<< Yn ôl tudalen