Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Reggie's Roller PalaceOlivia Brown

19 Tachwedd - 08 Ionawr 2012

Mae Mission Gallery yn falch o gyflwyno gosodiad diweddaraf Olivia Brown, ‘Reggie’sRollerPalace’. Trwy lygaid Reggie y llygoden fawr a mwy na 100 o wylwyr ceramig wedi eu creu â llaw, mae ‘Reggie’sRollerPalace’ yn olwg henaidd  ar y diwylliant modern o fod yn seren enwog. 

Yn arddangosfa hudolus o sglefrio cŵn, mae ‘Reggie’sRollerPalace’ yn arddangosfa addas ar gyfer y tymor, ac rydyn ni’n cael pleser cudd yn ffawd ac anffawd y cystadleuydd yn y sioeau teledu X Factor a Strictly Come Dancing.  Mae Brown wedi cael ei hudo gan dwf aruthrol y cwlt presennol o fod yn seren enwog, angen y gynulleidfa i gael pleser o’i wylio a sylw parhaus y cyfryngau sy’n amgylchynu’r byd modern rhyfedd hwn. Mae Brown yn gwneud sylwadau ar y brandio a chefnogaeth barhaus gan sêr, yn benodol y marchnata cyffyrddadwy gaiff ei ddefnyddio wrth lethu’r cynulleidfaoedd diniwed gydag amrywiaeth o nwyddau. O ganlyniad i hyn, mae Olivia Brown yn cynnig profiad o drochi llwyr. Mae sain cerddoriaeth Andrew Lawes, a gyfansoddwyd mewn ymateb uniongyrchol i’r gwaith yn tynnu’r gwyliwr i mewn i’r gofod. Unwaith y bydd wedi mynd i mewn, mae’r marchnata torfol yn cael gafael, gyda chreadigaeth cofroddion, byrddau hysbysebu amlwg ac arogl cyfrwys.

Mae ‘Reggie’sRollerPalace’ yn sefyll yn gadarn ac yn falch yn wyneb celf gyda’i arddangosfa a naratif theatrig orlawn. Mae sylw manwl Brown at fanylion o’r bwth tocynnau ar y dechrau, lle cewch chi gymryd tocyn fel cofrodd hyd y bathodynnau botwm y gallwch eu prynu i’ch atgoffa o’ch ymweliad, yn caniatáu i’r gwyliwr olrhain stori pob unigolyn sydd wedi cael ei greu. Yn cael eu harolygu gan banel beirniadu, gall y gwylwyr brofi treialon bywyd y cystadleuwyr, tebyg i Kenny a’i dîm arddangos sy’n dwyn y sylw i ffwrdd oddi wrth y cystadleuwyr eraill, er gwaetha’u hanfodlonrwydd, tra bod Reggie’n gwylio’r cynnwrf o bell gyda’i basteiod cig annwyl wrth law.

Olivia Brown

Graddiodd Olivia o Brifysgol Metropolitan Manceinion ym 1999 gyda gradd dosbarth cyntaf er anrhydedd mewn Celf Gyfoes. Fe sefydlodd ei busnes yn 2000 ac mae wedi dod yn enwog am ei cherfluniau ceramig a’i gosodiadau wedi eu creu’n arbennig ar gyfer safleoedd penodol; y cyntaf o’r rhain oedd ‘Elvis the Whippet’s Salon’, parlwr trin gwallt hen ffasiwn maint llawn. Yn 2010, i ddathlu 10 mlynedd o fod yn y busnes, cafodd 'Reggie'sRollerPalace' ei gomisiynu gan Oriel Gelf Stockport. 

<< Yn ôl tudalen