Yr Oriel

  • Header image

Radioactive BoglachAimee Lax

25 Ionawr - 21 Mawrth 2020

 

Mae gan Oriel Mission bleser gyflwyno Radioactive Boglach gan Aimee Lax, a ddangoswyd gyntaf yn New Brewery Arts, Cirencester.

Yn ystod haf 2017 bu Aimee Lax yn cymryd rhan mewn preswyliad yn Cove Park, Yr Alban, sy’n edrych dros Loch Long. Yn syth fe’i trawyd gan y pridd mawnaidd a’i liw brown cryf a sgleiniai gyda bacteria iach metelaidd eu golwg, y ffyngau a’r cennau’n wyrdd ac oren llachar o ganlyniad i’r aer glân. Ond, yn llechian rownd y gornel yn llythrennol mae pennau ffrwydrol ein gwlad wedi’u claddu’n ddwfn dan y llethrau …

Bu hyn yn ei harwain i ddilyn trywydd ymchwil ffuglennol, senario ‘beth pe bai?’.  Beth pe bai peth o’r ymbelydredd yn gollwng, pa fath o organebau a allai ddod i’r fei ar ôl degawdau o ollyngiadau gwenwynig heb eu canfod? Gwelir peth o ffrwyth ei dychymyg fan hyn, fel samplau o Boglach Ymbelydrol. Mae ymbelydredd dros amser maith yn esgor ar newidiadau rhyfedd i DNA gan arwain at ffurfiau o fath gwahanol, ffurfiau y mae modd eu nabod ond sy’n estron. Yma mae harddwch yn stelcian ond dyma bosibiliadau a allai fod yn arswydus a wireddir drwy gerfluniau.

Graddiodd Lax  o’r Coleg Celf Brenhinol, Llundain yn 2005 ac mae wedi gweithio gyda Syr Terence Conran, Y Gynghrair Frenhinol Dramor, Oriel IKON, Y Cyngor Crefftau, Banc Hadau’r Mileniwm, Prosiect Eden, RHS a’r V&A, lle mae ganddi waith yn y casgliad parhaol o gerameg gyfoes. 

 

 

 

 

 

 

Radioactive Boglach Logo Board

<< Yn ôl tudalen