Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

On the EdgeMuriel Clement

14 Tachwedd - 03 Ionawr 2010

Mae’n bleser gan Mission Gallery gyflwyno’r arddangosfa hon o weithiau newydd gan y gwehydd, Muriel Clement.  Mae ei thapestrïau meistrolgar wedi amlinellu patrwm cyfnewid barhaus, ryngweithiol y ddaear, y môr a’r awyr, ers mwy na deng mlynedd ar hugain.  Mae ansawdd adlewyrchol yr edafedd, wedi’u cyfuno â chyfoeth y lliw, yn mynegi datganiad personol iawn am yr amgylchedd mae hi’n byw ynddo.

Mae gan sawl blwyddyn o addysgu a theithio le yn ei gwaith: ynysoedd Groeg, traethau Gŵyr, cefn gwald Ffrainc.  Mae ymweliadau oriel a stiwdio ledled y byd, ac mae rhai ohonynt, fel Tapestri Caeredin a’i hedmygedd parhaus am y gwehydd Archie Brennan, yn themâu cyson.  Mynna Muriel fod tapestri yn feistres iddi’i hun, heb geisio dynwared peintio na chynhyrchu tebygrwydd ffotograffig.  Yn ei gwehyddu, ei nwyd, efallai uwch pob peth arall, mae lliw a ffurf.  Mae llyfr lliwio Muriel yn waith celf ynddo’i hun, dogfen o’i chwest am y glas, coch neu wyrdd perffaith… yn arnofio at waliau’r oriel, efallai byddwn yn gweld golygfeydd o’n byd yn ei ‘ffenestri’, teithiau rhanedig a phersonol, a mewnoliad penodol ei thirwedd.

Fel dywed Angela Maddock yn ei thestun arddangosfa; “Ymgorffora gwehyddu tapestri amser.  Ni allwch ruthro sampl cyflym, na phrofi rhywbeth yn hawdd.  Os bu llafur cariad erioed, dyma fe, a dysga wahanol fath o gelf i ni: un sy’n tyfu’n araf na ellir ei rhuthro.  Ond, dyma hanfod ei hapêl - ‘mae’n cymryd amser’, a llawer ohono.  Daw tapestrïau ag ansawdd gwahanol i ofod.  Yn lliain mor bendant ac wedi’u clymu mor sicr wrth y llaw a’r corff, benthycant ansawdd cyffwrdd sy’n brin mewn cyfryngau eraill.  Cynhesrwydd a adlewyrchir nid yn ansawdd defnyddiau Muriel yn unig – pleser mwynhad ei lliwiau – ond ‘corff’ ei lliain, ei allu i glustogi sain, i amsugno sŵn pob dydd ac i feddalu waliau yn gnawd.  Gan rwygo  a cholli’i hun mewn amser a gofod, wedi’i hamsugno mewn lliw - dyma destun Muriel, un sy’n gyfoethog a medrus, dathliad gwir o’i hiaith”.

<< Yn ôl tudalen