Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

OfferingsRozanne Hawksley

16 Ionawr - 06 Mawrth 2010

Mae’n bleser gan Mission Gallery groesawu Arddangosfa Canolfan Grefftau Ruthun, yr arddangosfa ôl-olwg unigol fawr gyntaf gan Rozanne Hawksley.  Er ei bod yn gweithio gyda thecstilau a brodwaith yn bennaf, does dim byd yn feddal am waith Rozanne Hawksley.  Mae ei chelf hynod yn cynnwys themâu mawr bywyd – cariad a cholled, rhyfel a dioddefaint, arwahanrwydd a chamddefnyddio pŵer drwy ganolbwyntio ar fanylion cynefin yr hyn maent yn ei olygu i unigolyn penodol.  Mae’i gosodiadau’n cyfuno deunyddiau teimladwy – maneg sy’n colli lliw, lili, ffotograff o ddarn o shiffon i wneud pwynt pwerus, adlewyrchol.  Fel dywed y llyfr a gyhoeddwyd gan Mary Schoeser i fynd gyda manylion yr arddangosfa, dyma artist arwyddocaol tu hwnt y mae ei stori yn fwy hynod fyth am iddi ddod i’r amlwg yn genedlaethol ond ugain mlynedd yn ôl, pan oedd hi eisoes yn ei phumdegau.

Wedi’i geni yn nhref forol Portsmouth ym 1931, roedd Rozanne Hawksley yn faciwî yn ystod y rhyfel, a thyfodd yn ystod amser pan oedd nifer yn galaru'r rhai na ddychwelodd o’r môr erioed.  Mae hi wedi tynnu o hynny, a phrofiadau personol eraill, yn ei gwaith.  Wedi’i hyfforddi yn y Coleg Celf Brenhinol yn yr 1950au, daeth yn rhan o grŵp a oedd yn cynnwys Lucien Freud, Francis Bacon a John Minton, cyn symud i America.  Pan ddychwelodd i Brydain i astudio cwrs ôl-raddedig yng Ngholeg Goldsmiths yn yr 1970au dechreuodd ddefnyddio tecstilau a gwniadwaith fel celfyddyd.  Wedi iddi gael ei chynnwys yn yr arddangosfa gyfunol arloesol ‘Subversive Stitch’ yn yr 1980au, dechreuodd Rozanne Hawksley ddenu sylw beirniaid a chasglwyr, ac ymddangosodd gweithiau ganddi mewn sioeau ledled Prydain ac Ewrop.  Mae un o’i gweithiau enwocaf, ‘Pale Armistice’, adlewyrchiad o nifer y meirw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn y casgliad yn yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol.

Yr arddangosfa hon, ‘Offerings’, yw sioe unigol gyntaf Rozanne Hawksley.  Mae’n ymdrin â themâu pwysig sy’n cael effaith ar bawb, bydd yn gyfle heb ei ail i weld gwaith pryfoclyd, ond hardd, yr artist rhyfeddol.

<< Yn ôl tudalen