Yr Oriel
Gall hwn fod yn freuddwyd
27 Mai - 29 Gorffennaf 2023
Arddangosfa gan Non
Artist wedi ei selio yng Nghaerdydd yw Non. Mae hi'n raddedigwr diweddar o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, sydd yn creu gosodweithiau tecstil gan ffocysu ar fethiant queer a mynegiant personol.
Creu llefydd i gyfathrebu, heb orfodaeth i siarad, fel ffordd o oresgyn yr ofn o gysylltu’n gymdeithasol. Cydblethu dyfnder, gwead a lliw i feithrin egrwch a bregusrwydd y gwaith.
Mae gwaith Non yn ymchwilio i greu byd aflwyddiannus drwy osodwaith. Mae’n caniatáu i ddyluniadau a syniadau cymhleth ddatblygu drwy greu arddangosion rhyngweithiol a chyffyrddol i’r gynulleidfa eu trafod ac ymgysylltu â nhw, gan ddod yn rhan felly o’r byd dychmygol.
Delwedd: Inside the shell, manylion gosodwaith, Non
Blog Post
Gall hwn fod yn freuddwyd
Mae Non yn artist sy'n dod i'r amlwg yng Nghaerdydd, yn fyfyriwr graddedig diweddar o Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, a chynhaliwyd ei harddangosfa drawiadol ar decstilau o'r enw 'This could be a dream' yn Oriel Mission ar 27 Mai, 2023.
Wedi methu unrhyw beth yn ystod yr arddangosfa yn Oriel Mission? Mae’r blog hwn yn trafod y cyfan, o arddangosiad pwytho byw Non i’r sesiwn Sgwrs wrth Gerdded wedi’i recordio, a’r gweithdai a gynhaliwyd yn ein gofod addysg ac yng Ngŵyl Tawe.
Mae gwaith Non yn canolbwyntio ar themâu methiant cwiar a mynegiant personol. Dysgwch bopeth am yr arddangosfa hon yn uniongyrchol gan yr artist gyda’r sesiwn Sgwrs wrth Gerdded hon a ffilmiwyd gennym gyda Non.
Drwy gydol yr arddangosfa hon, fe wnaethom drefnu cyfres o weithdai difyr. Un o’r digwyddiadau oedd Gweithdy Cerflunio Creaduriaid i Blant, a gynhaliwyd ar 2 Mehefin dan arweiniad ein Tîm Addysg. Sbardunodd y gweithdy feddyliau ifanc i ymchwilio i waith celf apelgar Non am ysbrydoliaeth, wrth iddynt greu eu cymeriadau dychmygus a’u bydoedd gwych eu hunain!
Cawsom y pleser o gynnal yr gweithdy hwn eto ar 10 Mehefin mewn stondin yng Ngŵyl Tawe, sef gŵyl Gymraeg a gynhaliwyd eleni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Roeddem mor falch o’r ymateb gan nifer o deuluoedd a ymunodd â ni ac a gymerodd ran frwd mewn cerflunio creaduriaid clai.
Ar 15 Mehefin, fe wnaethom estyn gwahoddiad i Non, gan ei galluogi i ddefnyddio ei gofod arddangos fel stiwdio ar gyfer y diwrnod. Y canlyniad oedd darn newydd hyfryd o waith celf! Mae proses artistig unigryw Non yn golygu defnyddio gwn a nodwyddau pwytho yn fedrus i ddod â’i gwaith yn fyw. Cliciwch yma i weld y broses yn llawn.
I orffen ar nodyn uchel, fe wnaethom gynnal pedwar gweithdy arall wedi’u hysbrydoli gan ‘This could be a dream’. I ddechrau’r gyfres, cynhaliwyd Gweithdy Gwneud Masgiau Plant ar 28 Gorffennaf, lle defnyddiodd y bobl oedd yno decstilau ac edafedd i greu eu campweithiau eu hunain y gellir ei gwisgo gyda dyluniadau unigryw.
Parhaodd y cyffro y diwrnod canlynol gyda Gweithdy Cerflunio Meddal i Blant, lle daeth y tecstilau a’r edafedd yn fyw unwaith eto wrth i’r bobl ifanc greadigol greu darnau cerfluniol, sy’n berffaith ar gyfer eu harddangos a’u cwtsio!
Roeddem yn falch o gael adborth cadarnhaol gan ymwelwyr a oedd yn wir wedi mwynhau eu profiad gyda ‘This could be a dream’. Roeddem yn hynod o falch yn gweld negeseuon pawb a ddefnyddiodd yr hashnod #buddybenchmission, lle cafodd ymwelwyr eu hannog i gamu i mewn i warchodfa borffor Fail Snail, a chymryd eiliad i ymgolli yn yr hyn oedd o’u cwmpas a thynnu hunluniau cofiadwy.
Wrth feddwl am y dyfodol, rydyn ni’n edrych ymlaen i baratoi ar gyfer ein harddangosfa sydd ar y gweill, sef WanderLand | Dathliad o deithiau creadigol. Mae’r arddangosfa hon yn arddangos penllanw gwaith a wnaed gan unigolion ifanc dawnus o wahanol brosiectau. Cliciwch yma i ddysgu mwy.
Os oedd y gweithdai a gynhaliwyd gennym yn apelio atoch, byddwch yn falch o wybod ein bod yn cynnig gweithdai i blant ac oedolion yn rheolaidd. Cadwch mewn cysylltiad drwy danysgrifio i'n tudalen Eventbrite, gan sicrhau mai chi yw'r cyntaf i wybod pan fydd gweithdy newydd yn cael ei gyhoeddi. Yn ogystal â hyn, tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau a mwy o newyddion cyffrous!