Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Unheralded StoriesTom Hunter

18 Mai - 14 Gorffennaf 2013

Mae’n bleser gan Oriel Mission gyflwyno gwaith Tom Hunter, i gyd-ddigwydd gyda Diffusion, Gŵyl Ryngwladol Ffotograffiaeth Caerdydd, trefnwyd gan Ffotogallery. Dangoswyd Unheralded Stories yn wreiddiol yn Oriel Purdy Hicks, Llundain yn 2010. Hwn yw’r tro cyntaf i waith Tom Hunter ei arddangos yng Nghymru.

Artist sydd ag enw rhyngwladol yn byw yn Llundain, Deyrnas Unedig, yw Tom Hunter. Graddiodd o Goleg Printio Llundain yn 1994. Arddengys ei waith gradd ‘The Ghetto’, cyfres o ffotograffiau a model o gymdogaeth Tom, yn barhaol yn Amgueddfa Llundain.

Cyflawnodd ei radd MA yn y Coleg Celf lle, yn 1996, cafodd ei wobrwyo Gwobr Ffotograffiaeth Fuji Film am ei gyfres ‘Travellers’. Yn 1998, ennillodd ‘Woman Reading a Possession Order’ o’i gyfres ‘Persons Unknown’, Gwobr Portread Ffotograffig John Kobal yn yr Oriel Portreadau Cenedlaethol. Arddengys ei gyfres ystâd ‘Holly Street’ yn Oriel Saatchi Llundain yn 1999. Arddengys ei gyfres ‘Life and Death in Hackney’ yn y White Cube yn 2000, ac yn 2013 daeth yn rhan o gasgliad yr Amgueddfa Gelf Fodern yn Efrog Newydd.

Yn 2006 daeth Tom Hunter yr unig artist i gael sioe ffotograffig unigol yn yr Oriel Genedlaethol gyda’i gyfres ‘Living in hell and Other Stories’, yn ymdrin â Hackney a’i berthynas gyda’r papur lleol. Ennillodd un darn le yn eu casgliad parhaol. Yn ddiweddar comisiynwyd gan Oriel Serpentine, Sianel 4, Amgueddfa Victoria ac Albert, Amgueddfa Llundain a’r Cwmni Shakespeare Brenhinol i greu arddangosfeydd o waith ffilm a ffotograffig  newydd. Arddengys ei waith yn genedlaethol a rhyngwladol mewn saith sioe  fawr unigol a sioeau grwp.

Mae Tom wedi cyhoeddi pedwar llyfr; Tom Hunter (Hatje Cantz, 2003) â ennillodd Wobr Llyfr Ffotograffigol John Kobal yn 2004, Tom Hunter (DA2 Domus Artium, 2004), Tom Hunter: Living in Hell and Other Stories (Oriel Genedlaethol Llundain, 2005), The Way Home (Hatje Cantz 2012). Yn ystod ei yrfa ennillodd saith gwobr, y mwyaf diweddar yn Ddoethuriaeth Anrhydeddus Celfyddydau o Brifysgol Dwyrain Llundain (2011), am ei waith yn dogfennu bywydau trigolion Dwyrain Llundain, a’r materion sydd yn eu gwynebu nhw a’u cymunedau. Yn 2010, gwobrwywyd yn Gymrawd Anrhydeddus y Gymdeithas Ffotograffig Brenhinol.

Mae Tom Hunter yn byw yn Nwyrain Llundain, ac mae ei waith yn aml yn arbenigol, er nid yw’n gyfyngedig, i’w gymuned a’i gymdogaeth. Yn Athro Ffotograffiaeth yng Ngholeg Cyfarthrebu Llundain, Prifysgol Celfyddydau Llundain.

 

<< Yn ôl tudalen