Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Dark StarJonathan Anderson

25 Medi - 06 Tachwedd 2010

Mae’n bleser gan Mission Gallery gyflwyno ‘Dark Star’ gan Jonathan Anderson.  Mae’r sioe un dyn gyntaf hon yn osodiad cerfluniol sy’n defnyddio delweddaeth gyntefig, gan greu presenoldeb anrheolaidd, ychydig yn faleisus yng ngofod Mission Gallery.  Gweithia Anderson gyda llwch glo i greu ffurfiau llawn, cyntefig sy’n darparu cyfrwng delfrydol ar gyfer archwilio trawsffurfiad a throsiad barddonol, a ddisgrifia fel ‘deunydd tywyll, dirgel, bron yn chwedlonol’.

 

Mae ystyriaethau ariannol yn allweddol i’w waith celf.  Mae’n gweithio gyda deunyddiau sydd ar gael yn rhwydd ac yn rhad.  Ac yntau wedi trin neu wedi bod o gwmpas y deunyddiau cyffyrddol hyn ers ei blentyndod, nid yw Anderson yn hoffi defnyddio deunyddiau celf ‘traddodiadol’ fel olew a chynfas.  Yn wir, mae’r deunyddiau hyn yn ei ddieithrio.   Mae gweithio gyda deunyddiau ‘naturiol’ megis tywod, pridd a glo yn ffordd o ailgysylltu â’r byd byw.

 

 ‘Dark Star’ â’n meddyliau y tu hwnt i faw a mecanweithiau gwneud.  Ysgrifenna Anthony Shapland yn ei draethawd catalog, ‘Earthbound’, “Mae ei strwythur a’i ddeinameg mor bell i ffwrdd o inertia ac y gallwn fod, yn fewnffrwydrad lle dylai fod ffrwydrad, yn rym allgyrchol/mewngyrchol, gan wthio mater tuag allan a’i dynnu i yr un pryd.  Carbon - blociau adeiladu bywyd - yn disgleirio â phosibiliadau diddiwedd.  Miliwn arwyneb crisialog gwahanol sy’n adlewyrchu, yn tryledu ac yn gwasgaru golau.  Ceir adlewyrchu ac amsugno  yr un pryd, a dechrau a diwedd a newid posib.  Mae wedi gwneud y foment hon yn gerfluniol, wedi atal y weithred ac wedi cyflwyno gwrthrych gwneud i ni sy’n dal y pwynt newid hwn i ni ei archwilio”.

 

Dywed fod Anderson yn credu mewn pŵer celf fel porth i ffordd arall o feddwl, fel microcosm o’r bydysawd o safbwynt dynol, teclyn ar gyfer myfyrio ynghylch natur gylchol pethau.  Mae ei gyfuniad o’r gwrthrych gwneud, sylfaenol gyda deunyddiau elfennol a graddfa ei weithiau, yn sicr yn pwyntio tuag at hyn.  Mae ei waith yn ein hatgoffa y cawn ein geni, yna rydyn ni’n byw, a marw.  Mae’n atgof o’r anochel.  Mae’n drwm ac yn fregus, ynghlwm wth y tir, yn farwaidd - byth yn bell o gael ei ddileu.

 

Yn olaf, noda Tim Davies am waith Anderson, “…Daw iriad o lwchglo yn waddod, fel staen,  o ddiwydiant cynt.  Gwelwyd yn y gorffennol fel y deunydd a fywiogodd nifer o gymunedau Cymreig… gwelir bellach fel tanwydd brwnt sy’n peryglu’r blaned.  Mae glo wedi derbyn statws deuoliaeth teimlad, ac osgoir hyn a ddathlwyd gynt.  Drwy lygru gwrthrychau pob dydd â’r sylwedd hwn, sy’n atgofus ac yn faleisus, chwaraea â ffurfiau cyntefig sy’n cyseinio o fewn yr ysbryd dynol."   

 

Graddiodd Jonathan Anderson o Brifysgol Fetropolitan Abertawe yn 2007, ac mae bellach yn gweithio yn Abertawe.  Mae sioeau grŵp blaenorol wedi cynnwys Crafted yn Oriel Myrddin, Caerfyrddin, 2009, Ground, Canolfan Gelfyddydau Wrecsam, 2009, a To the Buddha: Veils and Voids yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, 2010.  Ym mis Ebrill 2010 enillodd Wobr Brynu Richard and Rosemary Wakelin yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe.

<< Yn ôl tudalen