Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

New PaintingsRichard James

20 Gorffennaf - 01 Medi 2013

Mae’r ffigwr dynol yn chwarae rhan allweddol yng ngwaith James; er fod y pwnc yn ffigyrol mae’n glir taw y weithred corfforol o beintio yw ei brif bryder. Lliw, ffurf a chyfansoddiad sydd yn allweddol. Caiff gwynebau eu chwythu fyny i raddfa enfawr a pan edrychir ar y rhain o bellter cyffyrdda’r gwaith ar gysyniadau’r cyflwr dynol a’r cysylltiad gyda’r eisteddwr a’r artist. Dengys archwiliad agosach rhywbeth arall – daw’r cynfasau yn beintiol, anhrefnus a darniol.

“Mae datblygiad y gwaith trwy y broses peintio yn ddiddordeb mawr i mi – pwynt dechrau cryf, a thrwy arbrofi ac ailadrodd diweddu gyda rhywbeth ymddengys yn gytûn a threfnus yw’r peth sydd yn fy nghynhyrfu. Gall y gwyliwr adael gyda rhyw fath o naratif, ond mae hwn yn gyd-ddigwyddiad, i mi mae’r gwaith am y pwnc testun a’r broses gymerais tra’n peintio.”


Richard James

<< Yn ôl tudalen