Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image

My BadBedwyr Williams

17 Tachwedd - 06 Ionawr 2013

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian ac Ikon Birmingham, mewn partneriaeth ag Oriel Mission yn falch o gyflwyno arddangosfa newydd, My Bad, gan Bedwyr Williams.  Yn ei arddangosfa fwyaf cynhwysfawr hyd yn hyn, mae'n parhau i sylwi ar y byd â llygad craff a hiwmor. Mae My Bad yn cynnwys perfformio, cerflunio, paentio a ffotograffiaeth. Gan dynnu ar ei brofiadau personol a'i hanesion teulu ei hun - o ddyddiau ysgol mewn cymuned ffermio yng ngogledd Cymru i'w brofiad fel artist preswyl - mae Williams wedi ennill cydnabyddiaeth am ei gerflunwaith a'i waith perfformio sy'n myfyrio ar fywyd cefn gwlad, colled, cof a ffolineb uchelgais.  Trwy ei waith yn yr oriel a'i berfformiadau byw, rydym yn cael cipolwg ar hunanddatguddiad, meistrolaeth ar fytholeg ddiwylliannol a'r byd celf, yn ogystal â myfyrdod coeglyd ond tyner ar y cyflwr dynol. Y tu mewn i'r oriel, mae awgrymiadau eraill o aflonyddu a gwrthdroi yn disgwyl yr ymwelwyr, megis polyn lamp ansefydlog sy'n rhwygo drwy gynfas palmant (The Heron, 2012) neu odyn wedi ffrwydro a darnau o lestri wedi'u gwasgaru o'i chwmpas (Shitrunes, 2012).  Fel sy'n nodweddiadol yng ngwaith Williams, mae digrifwch yn britho'r delweddau hyn gan roi i ni'r ymdeimlad bod celf a bywyd nesaf at y gwirionedd pan fo'r cynlluniau gorau'n mynd o chwith.

 

 

<< Yn ôl tudalen